Adroddiad Effaith Blynyddol
Cymorth i Ferched Cymru
2017/2018

Rhagair y Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol

Ym mis Ionawr 2018 dechreuodd Cymorth i Ferched Cymru ar flwyddyn i nodi ein deugain mlwyddiant fel mudiad i ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Bu ein prosiect ’40 Llais 40 mlynedd’ yn dathlu ac yn talu teyrnged i bawb a fu’n rhan o’n mudiad, gan gynnwys ein rhwydwaith o wasanaethau arbenigol ar draws Cymru a’r goroeswyr dewr ac ysbrydoledig rydym ni’n gweithio gyda nhw.

Mae ein haelodau sy’n wasanaethau arbenigol, a’r goroeswyr cam-drin maen nhw’n eu cefnogi, yn ganolog i’n gwaith. Maent wedi adeiladu cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd mewn cymunedau lleol, ar sail fframwaith o gydraddoldeb a hawliau dynol yn seiliedig ar rywedd, gan ffurfio rhan o rwydwaith o ddarpariaeth ar draws y DU, ac fe wyddom mor hanfodol yw’r gwasanaethau cymorth hyn sy’n newid bywydau.

Yn 2017-18 yn unig, cefnogodd ein haelodau dros 12,000 o oroeswyr cam-drin; cafwyd cynnydd o draean mewn atgyfeiriadau i ddarpariaeth allgymorth yn y gymuned ar y flwyddyn flaenorol, ac er bod 95% o oroeswyr yn adrodd eu bod yn teimlo’n fwy diogel ar ôl defnyddio cymorth lloches, fe wyddom fod 431 o oroeswyr cam-drin wedi methu â chael cymorth pan oedd ei angen arnynt, oherwydd diffyg adnoddau a chapasiti yn y gwasanaethau. Yn yr un modd, cynyddodd atgyfeiriadau at ein haelodaeth o wasanaethau trais rhywiol i 1008 yn ystod y flwyddyn, ond ym mis Mawrth 2018, roedd 292 o fenywod ar restr aros am gymorth cwnsela.

Yn anffodus, dim ond nifer fach o’r goroeswyr cam-drin yng Nghymru yw’r rhain. Mae un fenyw a merch ym mhob tair yn parhau i ddioddef yn anghymesur oherwydd effaith cam-drin domestig, trais rhywiol, puteindra, priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod, trais ar sail ‘anrhydedd’, stelcio ac aflonyddu rhywiol. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn torri hawliau dynol ac mae wedi’i wreiddio mewn anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod, sy’n croestorri gyda gwahaniaethu ar sail ethnigrwydd, oed, dosbarth, rhywioldeb ac anabledd i effeithio ar brofiadau o gam-drin, a llwybrau at gymorth.

Rydym ni wedi gweld nifer o newidiadau cadarnhaol dros y blynyddoedd diweddar. Mae ein haelodau bellach yn gweithio o fewn cyfres o safonau cenedlaethol a fframwaith achredu a grëwyd yn arbennig ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig, gwasanaethau trais rhywiol a gwasanaethau gan ac ar gyfer menywod Du a lleiafrifol ethnig, a rhaglenni i gyflawnwyr ac ymyriadau yng Nghymru. Mae nifer o’n haelod-wasanaethau hefyd yn cyflwyno rhaglenni hyfforddiant ac addysg, gwaith grŵp gyda goroeswyr, gwaith i atal aflonyddu a cham-drin rhywiol, ac mae gan rai wasanaethau ar wahân ar gyfer bodloni anghenion dioddefwyr gwrywaidd, a chyflenwi ymyriadau i newid ymddygiad cyflawnwyr tra eu bod hefyd yn parhau i osod diogelwch goroeswyr wrth wraidd eu gwaith.

Eto i gyd mae llawer o bethau’n aros yr un fath. Mae cyllid y gwasanaethau arbenigol yn parhau’n anniogel mewn llawer o rannau o Gymru, ac rydym ni’n parhau i eiriol dros gyflwyno ymrwymiad y Strategaeth Genedlaethol i sicrhau cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol. Fe wyddom fod deddfwriaeth yn aml yn methu â gwneud gwahaniaeth i oroeswyr sydd wedi’u hymylu o’r gwasanaethau. Felly rydym ni’n parhau i eiriol a chynnig llais i’r rheini sy’n wynebu gwahaniaethu ac anfanteision niferus mewn cymunedau lleol.

Y ffocws parhaus hwn ar osod goroeswyr wrth galon popeth a wnawn sy’n golygu bod mudiad Cymorth i Ferched Cymru yn rym parhaus ac angenrheidiol, egnïol ac effeithiol dros newid yng Nghymru. Diolch i bawb sydd wedi gweithio gyda’n Hymddiriedolwyr elusennol hynod fedrus a’n timau profiadol a phroffesiynol drwy gydol y flwyddyn i’n helpu ni i sicrhau bod y newid rydym ni’n anelu ato’n bosibl. Diolch yn arbennig i’n cyllidwyr a’n cefnogwyr, sy’n credu ein bod yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Wrth i ni gydweithio ac ymgynghori ar ein strategaeth newydd ar gyfer y blynyddoedd i ddod a chreu newid gwirioneddol sy’n para, ymunwch â ni i helpu i greu’r newid cymdeithasol a diwylliannol sydd ei angen ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol unwaith ac am byth.

Eleri Butler, Prif Swyddog Gweithredol a Paula Walters, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Cymorth i Ferched Cymru

Edrychwch drwy’r gymuned yn 2017/18 gan glicio ar y dotiau

Diolch yn fawr

Rhestr o aelodau