Ymunwch â ni

Ymunwch â ni i gydweithio i ddileu pob math o drais yn erbyn menywod.

Dod yn gefnogwr

Dod yn gefnogwr unigol

I wybod mwy am ddod yn gefnogwr unigol, cliciwch yma.

Dod yn gefnogwr sefydliadaol

Ydy’ch sefydliad yn cefnogi gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd Cymorth i Ferched Cymru?

Os ydych chi’n sefydliad sector preifat, beth am ystyried dod yn gefnogwr sefydliadol.

Ymunwch â ni i greu mudiad i atal trais yn erbyn menywod yng Nghymru.

Cliciwch yma am fwy o fanylion.

Neu e-bostiwch [email protected] a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Dod yn aelod

Gweithio gyda’n gilydd i gefnogi goroeswyr

Mae ein haelodaeth yn cynnwys gwasanaethau arbenigol sy’n darparu cymorth sy’n achub bywydau i oroeswyr trais a cham-drin – menywod, dynion, plant a theuluoedd – ledled Cymru.

Gyda’n gilydd rydym ni’n ffederasiwn o sefydliadau arbenigol, sy’n gweithio fel rhan o rwydwaith yn y DU i ddarparu gwasanaethau ataliol mewn cymunedau lleol yn ogystal â llais cyfunol cryf.

Fel aelod byddwch yn derbyn:

  • Cyfleoedd i gyfrannu at ddatblygu polisïau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • Cyngor a gwybodaeth ar ddarparu gwasanaethau arbenigol, canllawiau polisi ac ymarfer a gwybodaeth a chymorth ymarferol yn ymwneud ag Adnoddau Dynol a materion datblygu busnes.
  • Darpariaeth cyflenwi y tu allan i oriau a dargyfeirio galwadau at y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
  • Cymhwystra i ymgeisio am achrediad cenedlaethol drwy Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru
  • Rhwydwaith i Brif Swyddogion Gweithredol/Cyfarwyddwr gael rhannu syniadau ac arferion mewn perthynas â gwaith sy’n ymwneud â llywodraethu, datblygu strategol a gweithio mewn partneriaeth, gyda chymorth Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru
  • Mynediad at adroddiadau dadansoddi data cenedlaethol a rhanbarthol i gynorthwyo asesiadau anghenion lleol, datblygu busnes a chodi arian
  • Mynediad gostyngol i hyfforddiant sydd wedi’i achredu, seminarau a digwyddiadau arbenigol

I wybod mwy am ddod yn aelod, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Gwirfoddoli

Ein helpu ni i greu newid

Helpwch ni i weithio tuag at greu cymdeithas lle mae pawb yn byw yn rhydd rhag trais a cham-drin.  Gwirfoddolwch gyda Cymorth i Ferched Cymru!

Yn arbennig, rydym ni bob amser yn chwilio am bobl sydd â sgiliau ym meysydd cyfathrebu, y cyfryngau a gweinyddu.

Cliciwch yma i weld ein cyfleoedd gwirfoddoli presennol.

I wybod rhagor, ebostiwch [email protected] os gwelwch yn dda.

Gweithio gyda goroeswyr

Os ydych chi’n oroeswr sydd â diddordeb mewn cefnogi neu gymryd rhan yn ein gwaith, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Mae eich profiadau a’ch anghenion yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni am sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu eich llais. I wneud hynny, mae angen eich help.

I wybod rhagor, ebostiwch [email protected] neu [email protected] os gwelwch yn dda.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am ein Rhwydwaith Goroeswyr.