Mae Canolfan Hyfforddi Genedlaethol Cymorth i Ferched Cymru yn darparu amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi ar gyfer atal a mynd i’r afael â phob agwedd ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).
Mae ein cyrsiau’n cael eu cynllunio a’u rhedeg gan ein tîm arbenigol ein hunain, yn ogystal â chydweithio drwy’r Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol; partneriaeth genedlaethol unigryw o wasanaethau arbenigol sy’n darparu hyfforddiant, dysgu a datblygiad yng Nghymru.
Mae ein hyfforddiant yn canolbwyntio ar oroeswyr ac yn adlewyrchu cyd-destun Cymreig y sector VAWDASV. Mae Canolfan Hyfforddi Genedlaethol Cymorth i Ferched Cymru yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol i gydnabod ac ymateb i gam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais yn erbyn menywod, yn ogystal â chefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn rolau arbenigol.
Ni yw’r darparwr cenedlaethol dan gontract i ddarparu’r rhaglen ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ sy’n cefnogi fframwaith polisi “Gofyn a Gweithredu” Llywodraeth Cymru. Mae Cymorth i Ferched Cymru yn ganolfan wedi’i hachredu gan Agored Cymru.
Ewch i’n tudalen hyfforddi i gael gwybod mwy am gyfleoedd hyfforddi gan gynnwys cyrsiau wedi’u hachredu gan CPD a chyrsiau heb eu hachredu, cymwysterau achrededig cenedlaethol a phecynnau pwrpasol.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau a chostau’r Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru anfonwch e-bost at: [email protected]
neu cysylltwch â’r tîm ar: 01286882733 neu 02920541551.
Do you want to help end violence against women? Why not attend our free #AskMe training in Cardiff on the 14th of July. For more info visit tinyurl.com/nryjvhx4 #ChangeThatLasts pic.twitter.com/NbujjIEFlp