Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Mae’r fideo hwn ar gael mewn llu o ieithoedd gwahanol – cliciwch yma i wylio.

Gallwch gael cymorth drwy ein gwasanaeth ebost uniongyrchol: [email protected]

Siaradwch â rhywun yn gyfrinachol drwy wasanaeth sgwrsio byw Byw Heb Ofn

Mae sgwrs fyw ar gael 24 awr.

Gallwn eich helpu yn Gymraeg, Saesneg ac unrhyw ieithoedd eraill gan ddefnyddio LanguageLine.

Gall defnyddwyr ffôn destun gysylltu â ni drwy Type Talk ar 1800108088010800

Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Byw heb Ofn 24/7 drwy decstio ar 07860 077333

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel a byw heb ofn.

Os ydych chi wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod, neu’n pryderu am ffrind neu berthynas sy’n profi unrhyw fath o drais neu gam-drin, gallwch ein ffonio ni – mae am ddim, ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Caiff unrhyw un sy’n galw fod yn siŵr y byddan nhw’n cael ymateb cyfeillgar, cefnogol gan ein tîm profiadol, sy’n gallu deall a thrafod eich pryderon a chynnig cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth. Fyddwn ni ddim yn eich beirniadu, nac yn eich beio chi, a does dim rhaid i chi fod yn barod i weithredu.

Gallwn ni wrando, cynnig cymorth a chefnogaeth, a rhoi gwybodaeth i chi am amrywiaeth o opsiynau a gwasanaethau yn eich ardal, sydd wedi’u cynllunio i helpu i gwrdd â’ch anghenion, gan gynnwys:

  • Llety Argyfwng
  • Cwnsela
  • Gwasanaethau cymorth lleol
  • Hawliau Lles a Budd-daliadau
  • Materion Cartrefu
  • Materion Cyfreithiol
  • Lles Plant
  • Rhaglenni i Gyflawnwyr Trais
  • Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhyw

Ni fydd galwadau i’r llinell gymorth i’w gweld ar filiau ffôn llinell tir.

Mae pob galwad yn gyfrinachol. Os bydd yn angenrheidiol i ni rannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill, byddwn ni’n cael eich cydsyniad llawn chi yn gyntaf. Yr eithriadau i hyn yw os yw eich bywyd chi mewn perygl neu os oes plentyn mewn perygl. Yn yr amgylchiadau hynny, byddai’r awdurdodau’n cael eu hysbysu i sicrhau eich diogelwch a’ch lles chi a’ch plant.

 

Am y trydydd tro, cafodd y safon ansawdd genedlaethol gydnabyddedig, sy’n diffinio ac yn achredu arferion gorau mewn gwaith llinell gymorth, ei dyfarnu i Llinell Gymorth Byw Heb Ofn.