Os ydych chi’n poeni eich bod chi neu eich plentyn mewn perygl o niwed dylech gysylltu â’r heddlu a chael cyngor cyfreithiol brys.
Mae cred gyffredin y bydd Gwasanaethau Plant (gweithwyr cymdeithasol) yn gosod plant mewn gofal yn awtomatig os ydyn nhw’n dod o gartref lle mae cam-drin domestig yn digwydd. Mae hyn yn ddigwyddiad prin iawn. Mae gan y Gwasanaethau Plant, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill ganllawiau cenedlaethol ar eu dyletswydd i gymryd gofal arbennig i helpu i ddiogelu a hyrwyddo lles y plant a phobl ifanc a allai fod yn byw mewn amgylchiadau o straen arbennig, a allai gynnwys teuluoedd lle ceir cam-drin domestig.
Dylai gweithwyr cymdeithasol y Gwasanaethau Plant gynnig cyfle i chi a / neu eich plant gael eich gweld ar wahân i’r partner/aelod teulu sy’n cam-drin (gan gynnwys ym mhob asesiad) gydag aelod benywaidd o staff lle bo’n ymarferol. Os ydyn nhw’n gwybod bod cam-drin domestig yn digwydd, eu blaenoriaethau fydd:
Mae gweithwyr cymdeithasol wedi’u hyfforddi i gynorthwyo rhieni a gofalwyr wrth edrych ar ôl eu plant. Mae Deddf Cyfraith y Teulu 1996 yn caniatáu i awdurdodau lleol symud y sawl sy’n cyflawni’r cam-drin o’r cartref lle mae’r cam-drin yn digwydd. Gallan nhw hefyd helpu mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys:
Os ydych chi neu eich plant yn dod o dramor i ymuno â’ch partner, a’ch bod yn gadael oherwydd cam-drin domestig, mae’n bosib y bydd angen cael eglurhad o’ch statws mewnfudo chi a’ch plant. Ni ddylai Gwasanaethau Plant geisio eich perswadio i beidio â gadael cartref treisiol oherwydd pryderon am statws eich plant yn y wlad hon. Dylech geisio arweiniad arbenigol gan gynghorydd sydd wedi’i gymeradwyo gan Swyddfa Comisiynydd y Gwasanaeth Mewnfudo.
Os ydych chi’n gwahanu, ac angen cyngor a chymorth ynglŷn â gwneud trefniadau diogel i’ch plant (lle fyddan nhw’n byw, pa mor aml fyddan nhw’n gweld y rhiant arall, cynhaliaeth, ysgol ac addysg) cysylltwch â’ch gwasanaeth cam-drin lleol (dolen at y gwasanaethau yng Nghymru). Ceir rhagor o wybodaeth am Orchmynion Trefniadau Plant a’r Llysoedd Teulu gan Rights of Women a Cafcass Cymru.
Arwyddion y gallai eich arddegwr fod mewn perthynas o gam-drin:
Mae cam-drin mewn perthynas pobl ifanc yn eu harddegau yn gallu bod yn anodd i’r person ifanc a’r rhiant ei adnabod. Yn aml bydd gan bobl ifanc farn ‘ramantaidd’ am gariad, dim llawer o brofiad o berthynas a gallan nhw fod dan bwysau o oed ifanc i fod mewn perthynas.
Gallai’r canlynol fod yn arwyddion:
Agweddau ac ymddygiad i edrych amdanyn nhw –
Credu:
Beth gallwch chi ei wneud i helpu:
Ffynhonnell: ‘Do you know if your teenager is in an abusive relationship?’ https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/506389/parents-leaflet__1_.pdf
If you are worried about yourself or someone you know, the Live Fear Free Helpline is there for you whatever time of day or night. Whether you want information, advice or support, they are there for you. Get in touch via phone, text, email or webchat. pic.twitter.com/vkdXxXQ6Vz