Os wyt ti’n blentyn neu’n berson ifanc

 

Os wyt ti’n blentyn neu’n berson ifanc sy’n poeni am yr hyn sy’n digwydd yn dy gartref

Wyt ti’n poeni am gam-drin domestig gartref neu wyt ti’n meddwl dy fod mewn perthynas ddrwg? Mae cymorth a chyngor ar gael i ti. Ambell waith mae’n anodd dweud beth sydd ar dy feddwl ond gall siarad â rhywun dy helpu di i ymdopi ag anawsterau.

Cadw’n Ddiogel

Mae’n bwysig meddwl am gadw’n ddiogel. Gallwn ni dy helpu di drwy siarad drwy dy wahanol opsiynau.

Cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Mae angen bod yn ddewr iawn i ofyn am gymorth ac mae dod o hyd i berson rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus gyda nhw hefyd yn bwysig. Mae rhai plant a phobl ifanc yn dweud wrthym ni ei bod yn haws ambell waith siarad â rhywun sydd ddim yn eu hadnabod. Mae dod o hyd i’r amser neu’r geiriau iawn yn gallu bod yn anodd, felly efallai byddai’n syniad i ti ysgrifennu’r hyn rwyt ti’n dymuno ei ddweud.

Dyma rai awgrymiadau:

Os wyt ti’n’n blentyn neu’n berson ifanc sy’n poeni am dy berthynas di neu am berthynas rhywun arall

Beth yw cam-drin domestig?

Cam-drin domestig yw un person yn camddefnyddio pŵer a rheolaeth dros un arall; nid yw hyn yn normal ac nid yw hyn byth yn iawn.

Os wyt ti mewn perthynas gyda rhywun, dylet ti deimlo:

  • cariad
  • ymddiriedaeth
  • diogelwch
  • parch
  • yn rhydd i fod yn ti dy hun.

Os yw dy berthynas yn gwneud i ti deimlo:

  • yn ofnus
  • dan fygythiad
  • dan reolaeth

mae’n bosib dy fod ti’n profi cam-drin domestig.

Ambell waith mae’n anodd gweld bod cam-drin domestig yn digwydd, yn enwedig os oes gennyt ti deimladau cryf am y person hwnnw. Mae’n gallu bod ar sawl ffurf wahanol – gall fod yn gorfforol, emosiynol, ariannol a rhywiol.

Dyma rai enghreifftiau:

Os wyt ti wedi ateb ‘ie’ i lawer o’r cwestiynau a bod rhywun rwyt ti’n ei adnabod yn arddangos llawer o’r nodweddion hyn, gallai fod yn arwydd bod angen iddyn nhw ystyried effaith eu hymddygiad ar bobl eraill. Mae’n bwysig egluro y gall pob un ohonom ni ymddwyn mewn ffyrdd sy’n cynnwys rhai o’r ymddygiadau hyn, efallai’n anaml neu fel jôc. Ond os ydyn nhw’n cael eu defnyddio i reoli person arall, gallai hyn fod yn arwydd o berthynas o gam-drin.

 

Diogelwch sy’n dod gyntaf

Os wyt ti neu rywun rwyt ti’n ei adnabod mewn perthynas o gam-drin mae rhai pethau y gelli di eu gwneud:

  • siarad gyda rhywun – oes gennyt ti oedolyn diogel y gelli di siarad â nhw ac rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw? Gallai fod yn athro, perthynas neu weithiwr cymorth
  • Ffonia Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim.