Gall diogelwch a lles plant a phobl ifanc sy’n profi cam-drin domestig gael eu tanseilio’n ddifrifol o ganlyniad i fyw gyda cham-drin domestig. Mae unrhyw blant sy’n dyst i gam-drin domestig yn cael eu cam-drin yn emosiynol. Mae’n bosibl fod rhai plant yn cael eu cam-drin yn uniongyrchol yn gorfforol neu’n rhywiol gan y sawl sy’n ei gyflawni. Gall pobl ifanc hefyd brofi neu gyflawni cam-drin yn eu perthynas eu hunain.
Mae ein prosiect Mae Plant yn Bwysig yn gweithio i sicrhau bod anghenion a phrofiadau plant a phobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig yn cael eu hadnabod a’u bodloni.
Ein nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc i gyd yn deall cam-drin domestig a’r help sydd ar gael, a bod y rheini a gaiff eu heffeithio gan gam-drin domestig yn cael eu hadnabod, eu cefnogi a’u diogelu, eu bod yn gallu manteisio ar wasanaethau arbenigol o ansawdd uchel ym mhob maes, ac yn cael cymorth i ymadfer ar ôl cael eu cam-drin er mwyn gallu datblygu eu potensial llawn.
Rydym ni’n gwneud hyn drwy hyrwyddo addysg a dulliau cymunedol o atal ac ymyrraeth gynnar, gan herio anghydraddoldeb rhwng merched a bechgyn, gwella diogelwch a lleihau’r effaith uniongyrchol ac yn y dyfodol ar blant a phobl ifanc o weld neu brofi trais a cham-drin.
Mae ein gwaith yn cynnwys:
Gwasanaethau S.T.A.R Mae Plant yn Bwysig
Rydym yn darparu ystod o adnoddau, hyfforddiant a chymorth i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys: i gyflwyno rhaglenni grŵp, gan gynnwys:
I gael rhagor o wybodaeth ebostiwch ni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn mwy o wybodaeth am yr hyn y gall Mae Plant yn Bwysig gynnig neu ddiddordeb mewn ymuno â’n rhestr bostio ar gyfer diweddariadau am ddigwyddiadau yna anfonwch e-bost atom yma.
We're looking for 2 people to join our wonderful Business Support team. 💼Business Support Officers 💰£20,444.00 – £22,129.00 p/a pro rata 👉1 x Full time; 1 x Part time For more info & to apply, check out our website: welshwomensaid.org.uk/workwit… *Deadline approaching* pic.twitter.com/L2ThgbXRqF