Mynegi Diddordeb

Ffurflen Mynegi Diddordeb yn y cwrs Gofyn i Fi

Atebwch yr holl gwestiynau. Gallwn ni eich helpu i gwblhau’r ffurflen neu ei chwblhau dros y ffôn os ydych yn ansicr neu angen unrhyw gymorth – cysylltwch os gwelwch yn dda: [email protected].

Eich data chi

Drwy fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun Gofyn i Fi rydych chi’n cytuno y caiff Cymorth i Ferched Cymru storio a defnyddio’r wybodaeth sydd ar y ffurflen hon.

Caiff y wybodaeth ar y ffurflen ei defnyddio dim ond i asesu a ydych chi’n addas ar gyfer Gofyn i Fi, nodi unrhyw gymorth y gallai fod ei angen ar ymgeiswyr a sicrhau bod gennym ni fanylion cyswllt ar gyfer gohebiaeth yn gysylltiedig â Gofyn i Fi.

Caiff y wybodaeth ei storio’n electronig yn unol â’n polisi Cyfrinachedd, Diogelu Data a Rhannu Gwybodaeth.

Caiff y wybodaeth ei chadw tra byddwch chi’n rhan o gynllun Gofyn i Fi ac am 6 mis ar ôl i chi adael y cynllun. Byddwn yn adolygu ein cofnodion bob chwarter ac yn gofyn i unrhyw un sydd heb gwblhau traciwr gweithredu am 6 mis i gadarnhau a ydyn nhw’n awyddus barhau’n rhan o Gofyn i Fi. Ar unrhyw adeg gallwch ofyn am gael tynnu eich manylion oddi ar ein cronfa ddata drwy gysylltu â Chydlynydd Gofyn i Fi: [email protected].

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, pryderon neu ymholiadau am sut y caiff eich data ei storio, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data: [email protected].