Ydy wir! Gall unrhyw un gymryd rhan yng nghynllun Gofyn i Fi, boed nhw’n oroeswr neu beidio ac mae llawer o’r cyfranogwyr yn oroeswyr. Ond mae rhai pethau y dylech chi feddwl amdanyn nhw cyn mynd ymlaen.
Os ydych chi’n cael eich cam-drin ar hyn o bryd meddyliwch a yw hi’n ddiogel i chi wneud y cwrs nawr. Er enghraifft, os byddai’r person hwnnw’n dod i wybod am y cwrs, a fyddai hyn yn eich rhoi chi mewn perygl? Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â ni cyn cofrestru. Os ydych chi’n cael eich cam-drin ar hyn o bryd, cofiwch fod help a chefnogaeth ar gael am ddim drwy ein llinell Gymorth 24 awr Byw Heb Ofn.
Hyd yn oed os yw’r cam-drin yn hanesyddol a’ch bod yn ddiogel nawr, mae’n werth meddwl sut y byddech chi’n teimlo ar gwrs yn trafod cam-drin. Er ein bod yn gwneud popeth i wneud y cwrs mor ddiogel a chefnogol ag y gallwn, nid cwrs therapiwtig neu gefnogaeth yw hwn ac i rai pobl, efallai nad dyma’r adeg iawn iddyn nhw gymryd rhan.