Prosiect Gofyn i fi

Rydym ni ar hyn o bryd yn cynnig hyfforddiant Gofyn i Fi yng Nghaerdydd a’r Fro, Gogledd Cymru, Abertawe, a Chastell Nedd Port Talbot.

Yn aml, cymunedau yw’r cyntaf i wybod am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ond nid yw’r ffordd rydyn ni’n ymateb bob amser yn ddefnyddiol. Mae cynllun Gofyn i Fi am newid hynny.

Rydyn ni am helpu i ddileu cam-drin drwy gynorthwyo cymunedau i ymateb yn well i oroeswyr ond hefyd i fynd ati’n fwriadol i ddod o hyd i ffyrdd o herio mythau, agweddau a stereoteipiau di-fudd sy’n galluogi cam-drin ac yn ei normaleiddio.

Rydym ni’n gwneud hyn drwy ddarparu hyfforddiant a chymorth parhaus am ddim sy’n helpu aelodau’r gymuned i gychwyn sgyrsiau am gam-drin, i wybod ble mae cymorth ar gael, i rannu eu gwybodaeth gydag eraill ac i wybod sut i ymateb i unrhyw un sy’n rhannu eu profiadau o gam-drin.

Yn dilyn y cwrs, caiff aelodau o’r gymuned dreulio cymaint neu gyn lleied o amser ag y maen nhw’n ei ddymuno ar hyn – y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw eu bod yn cwblhau holiadur byr bob mis i roi gwybod i ni beth maen nhw wedi bod yn ei wneud. I gofrestru ar gyfer y cwrs, rhaid i chi fod yn 18 neu’n hŷn ac yn byw, astudio, gweithio, neu’n gwirfoddoli mewn ardal sy’n cael ei hariannu (gweler “Pwy sy’n cael cymryd rhan?” isod). Nodwch os gwelwch yn dda na allwn dderbyn ceisiadau o’r tu allan i Cymru.

Rydym ni’n falch iawn i gyhoeddi y byddwn yn ehangu darpariaeth Gofyn i Fi i gymunedau yng ngogledd Cymru’n fuan. Rydym yn gwneud y gwaith gyda chefnogaeth ein cyllidwyr hael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Cyngor Abertawe a Sefydliad Waterloo.

Cwestiynau Cyffredin