Ymagwedd newydd sy’n seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion yw Newid sy’n Para sy’n cynorthwyo goroeswyr pob math o drais yn erbyn menywod, a’u plant, i adeiladu gwydnwch, ac arwain at annibyniaeth.
Ein hymagwedd:
Darllenwch grynodeb o ymagwedd Newid sy’n Para (PDF)
I lawer o fenywod, pan fyddan nhw’n datgelu am y tro cyntaf eu bod yn profi cam-drin, dydyn nhw ddim yn cael ymateb cefnogol. Does neb yn ymgynghori â nhw am y ffordd orau i helpu i’w gwneud yn fwy diogel, er bod neb yn adnabod y cyflawnwr yn well na nhw.
Yn aml caiff menywod sy’n datgelu cam-drin eu hasesu gan weithwyr proffesiynol am risg, sydd wedyn yn pennu pa lefel o gymorth a roddir iddynt, ac yn aml caiff y rheini a asesir ar lefel is o risg gynnig lefel is o gymorth. Gyda risg yn ddangoswr neu’n borth at gymorth, credwn fod menywod yn cael pecyn cymorth llai pwrpasol ac yna’n ei chael yn anodd dianc yn barhaol rhag y cam-drin.
Rydym ni am newid hynny a sicrhau bod cymorth yn cael ei gynnig ar sail anghenion menyw a bod hynny’n adeiladu ar ei chryfderau a’r adnoddau sydd ar gael iddi er mwyn iddi allu adeiladu ei hannibyniaeth, ymadfer o’r trawma mae hi wedi’i brofi a chael ei bywyd yn ôl.
Mae’r degawdau rydym ni wedi’u treulio’n gweithio gyda goroeswyr, a thystiolaeth ymchwil, wedi dysgu ffordd well i ni. Drwy wrando ar fenywod gallwn ddarparu cymorth yn gynt a gwneud yn siŵr fod ei effeithiau’n para mewn gwirionedd.
Mae ‘Newid sy’n Para’ yn ymagwedd newydd sy’n gosod y goroeswr yn y canol ac yn adeiladu’r ymatebion o gwmpas ei hanghenion hi a’r cryfderau a’r adnoddau sydd ar gael iddi.
Yn rhy aml caiff yr ymagwedd hon ei hystyried yn rhy gymhleth ac yn rhy ddrud. Felly i egluro, rydym ni wedi creu ffeithluniau, sy’n mynegi llwybrau’r menywod hyn, a’r llwybrau y gallent fod wedi’u dilyn. Mae’r rhain yn dangos cost enfawr, mewn termau dynol ac ariannol, peidio â gwrando ar fenywod ac ymateb i’w hanghenion.
Rydym ni am barhau i eiriol am ymateb i bob math o drais yn erbyn menywod sy’n gosod menywod yn y canol.
Mae ‘Newid sy’n Para’ yn cynnwys 3 ffrwd, sydd, os ydy’r 3 yn gweithio gyda’i gilydd, yn gallu:
Y 3 ffrwd yw:
Cymunedau yn aml yw’r cyntaf i wybod am berthnasoedd o gam-drin felly nod cynllun ‘gofyn i fi’ yw gwella dealltwriaeth cymunedau drwy ddarparu cwrs hyfforddi deuddydd ar sut i torri’r tawelwch a chodi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched. Byddant hefyd yn cael yr offerynnau a’r hyder i ymateb yn briodol i oroeswyr os ydynt yn dewis rhannu eu profiadau.
Cwrs hyfforddi undydd, a ddarperir mewn partneriaeth â Respect, wedi’i gynllunio i uwchsgilio gweithwyr proffeisynol proffesiynol sy’n cysylltu â darpar oroeswyr a/neu gyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a/neu drais rhywiol er mwyn adnabod arwyddion, ymateb i ddatgeliadau ac atgyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol.
Mae’r ffrwd hon yn y model yn ceisio gwella ymateb gwasanaethau cymorth arbenigol i fenywod sydd â thrais a cham-drin yn effeithio arnynt, drwy ddyrannu adnoddau i wasanaethau gyflwyno/datblygu/adolygu offerynnau i gynorthwyo menywod gydag ymagwedd a arweinir gan anghenion, ar sail cryfderau, wedi’i llywio gan rywedd a thrawma er mwyn cyflawni newid sy’n para a gwell llesiant i fenywod.
Yn 2017-18 llwyddodd Cymorth i Ferched Cymru, mewn partneriaeth gyda Women’s Aid (Lloegr), i beilota’r ffrwd ‘gofyn i fi’ yn y model ‘Newid sy’n Para’ ym Mhowys, gyda chefnogaeth lawn ein Canolfan Argyfwng Teulu ym Maldwyn a Calan DVS. Gallwch weld yr effaith yma.
Yn dilyn llwyddiant cynllun peilot ‘gofyn i fi’, mae Cymorth i Ferched Cymru wedi sicrhau cyllid ar gyfer amrywiol brosiectau ‘Newid sy’n Para’ ar draws Cymru. Cliciwch ar bob rhanbarth isod i weld sut mae ‘Newid sy’n Para’ yn gweithredu ym mhob ardal.
Sign up for our National Conference. This will be a collaborative learning opportunity for strategic public sector leaders & the VAWDASV sector. Chaired by the National Advisors for VAWDASV, with a message from @fmwales bit.ly/37q1EVn #PreventingVAWDASV pic.twitter.com/ujiXGJNjKF