Rydym ni’n ymgyrchu i wella ymarfer a gwasanaethau i oroeswyr trais a cham-drin, ac yn gweithio i ddylanwadu a gwella cyfraith a pholisi yng Nghymru, yn y DU, yn Ewrop ac yn rhyngwladol.
Rydym ni’n siarad am y pethau sy’n bwysig i bobl sydd wedi profi cam-drin ac â’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi, er mwyn codi ymwybyddiaeth am faterion sy’n bwysig, ond sy’n aml yn cael eu hanwybyddu.
Rydym ni’n gwneud yn siŵr fod lleisiau a phrofiadau goroeswyr a gwasanaethau arbenigol yn ganolog i bopeth rydym ni’n ei wneud.
Mae angen eich cymorth arnom ni i’n helpu i ymgyrchu’n llwyddiannus i ddylanwadu newid.
I gael rhagor o wybodaeth, neu gymryd rhan mewn ymgyrch penodol, ebostiwch [email protected]
Mae ein hymgyrchoedd cyfredol yn cynnwys:
-
Rydym yn galw am gyllid hir-dymor ar gyfer gwasanaethau arbenigol ar draws Cymru, fydd yn galluogi merched a phlant i dderbyn cymorth all achub eu bywydau. Yng Nghymru llynedd nid oedd yn bosibl gynnig lloches i 388 o oroeswyr camdriniaeth domestig oherwydd diffyg lle pan roeddent ei angen fwyaf. Gyda’n gilydd gallwn newid hyn. Llwyddiant…
-
Gall hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol gynyddu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chael effaith ar rwydweithiau diogelwch a chymorth goroeswyr. Yn awr yn fwy nag erioed, mae’n bwysig ein bod yn deall trais a chamdriniaeth ac yn cefnogi anghenion goroeswyr. Mae ymateb cymunedol ac undod cymdeithasol hyd yn oed yn…
-
Cyflwyniad Cyn Covid-19 cynhaliodd Cymorth i Ferched Cymru waith ymchwil i’r sefyllfa o ran y gwasanaethau arbenigol oedd ar gael ledled Cymru i blant a phobl ifanc oedd wedi profi pob math o gamdriniaeth, gan ddarganfod sector oedd â llawer rhy ychydig o adnoddau i ddiwallu’r angen. Ers mis Mawrth 2020 dim ond gwaethygu a wnaeth y sefyllfa honno, wrth i wasanaethau arbenigol ddefnyddio dulliau mwyfwy creadigol i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, a llawer o’r rheini wedi colli’u mynediad at bob math o gymorth allanol arall. Yn fyr, mae’n bwysicach nag erioed i leisiau plant a phobl ifanc gael eu clywed ac i gymorth fod ar gael a dyna paham yr ydym wedi creu Pecyn Cymorth Ymgyrchoedd Mae Plant yn Bwysig ar gyfer Diwrnod Byd-eang y Plant 2020, a hynny fel rhan o ymgyrch Cymorth i Ferched Cymru i gynyddu’r cyllid ar gyfer cymorth arbenigol i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn medru cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt. Isod cewch ddolenni i adroddiadau, papurau briffio, taflenni ffeithiau, fideos, data a ffeithluniau y gellwch eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o anghenion plant a phobl ifanc am gymorth arbenigol ar gyfer Diwrnod Byd-eang y Plant ar 21 Tachwedd a thu hwnt. Data allweddol Dengys adroddiad data aelodaeth blynyddol Cymorth i Ferched Cymru fod yng Nghymru yn y flwyddyn 2019/20 y canlynol: 3,312 o blant a phobl ifanc wedi derbyn cymorth gan wasanaethau arbenigol yn y gymuned. 1154 o blant a phobl ifanc yn byw mewn…