Hyfforddiant a Chymwysterau

 

Canolfan Hyfforddi Genedlaethol Cymorth i Ferched Cymru

Rydym ni’n darparu amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi ar gyfer atal a mynd i’r afael â phob agwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Caiff ein cyrsiau eu cynllunio a’u rhedeg gan ein tîm arbenigol ein hunain, yn ogystal â thrwy gydweithio â’r Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol; partneriaeth genedlaethol draws-sector unigryw o wasanaethau arbenigol sy’n darparu hyfforddiant, dysgu a datblygiad yng Nghymru.  Mae ein hyfforddiant yn canolbwyntio ar oroeswyr ac yn adlewyrchu cyd-destun Cymreig y sector VAWDASV. Mae ein Canolfan Hyfforddi Genedlaethol yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol i adnabod ac ymateb i gam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais yn erbyn menywod, yn ogystal â chefnogi’r rheini sy’n gweithio mewn rolau arbenigol.

Ni yw’r darparwr cenedlaethol dan gontract i ddarparu’r rhaglen ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ sy’n cefnogi fframwaith polisi “Gofyn a Gweithredu” Llywodraeth Cymru. Mae Cymorth i Ferched Cymru yn ganolfan sydd wedi’i hachredu gan Agored Cymru a NOCN.

Ewch i’n hardal hyfforddi

i gael gwybod mwy am gyfleoedd hyfforddi gan gynnwys cyrsiau wedi’u hachredu gan CPD a chyrsiau heb eu hachredu, cymwysterau achrededig cenedlaethol a phecynnau pwrpasol.

Ardal hyfforddi

Neu beth am edrych ar ein Llawlyfr Hyfforddi i weld yr hyn gallwn ni ei gynnig.

Llawlyfr Hyfforddi 2023-2024

I gael rhagor o wybydoaeth am gyrsiau a chostau Gwasanaeth Hyfforddi Cymorth i Ferched Cymru, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen isod os gwelwch yn dda, neu ffoniwch ni ar 02920 541551.

Beth am gofrestru isod i dderbyn Cylchlythyr Hyfforddiant Cymorth i Ferched Cymru:

indicates required