Mae achosion o drais a cham-drin wedi cynyddu yn ystod y pandemig.
Arweiniodd cyfyngiadau symud yng Nghymru at gynnydd o 49% mewn cysylltiadau â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, sy’n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ferched Cymru.
Mae miloedd o oroeswyr yn estyn allan am gymorth a gallai pwysau’r Nadolig eu gosod mewn perygl mwy fyth.
Mae angen eich cefnogaeth i’n helpu i gyrraedd y rhai sydd mewn sefyllfaoedd treisgar a darparu’r cymorth sydd ei angen mor ddybryd arnynt. Yn awr.
Rhowch eich rhodd Nadolig o ddiogelwch yma
“Mae trais yn erbyn menywod yn bandemig cysgodol. Mae Coronafeirws wedi dangos bod goroeswyr wedi’u hynysu oddi wrth eu systemau cymorth arferol, a heb fynediad at gymorth mae bywydau mewn perygl.”
Sara Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredwr Cymorth i Ferched Cymru
Gyda’ch help chi, gallwn:
Cyfrannwch heddiw ac, fel diolch gennym ni, byddwch yn derbyn Rhodd Ffeministaidd yn rhad ac am ddim sy’n cynnwys lawrlwythiadau o eitemau i’w ‘creu neu’u crasu’!
Darllenwch am y menywod gwych a chreadigol sydd wedi cyfrannu at eich Rhodd Ffeministaidd sy’n rhad ac am ddim, gan gynnwys Maggie’s Exotic Foods a Twin Made.
Defnyddiwch y Rhodd Ffeministaidd i:
Llongyfarchiadau/Congratulations @FarahNazeer - Looking forward to working with you as part of the UK sisterhood. twitter.com/womensaid/stat…