Gadael cymynrodd

 

Ers 1978, mae Cymorth i Ferched Cymru wedi bod yn gweithio i atal cam-drin domestig yn erbyn menywod. Rydyn ni wedi dod ffordd bell ac yn ymfalchïo yn ein cyflawniadau. Rydyn ni’n gweithio i sicrhau mai ein gwaddol ryw ddydd fydd Cymru lle mae trais yn erbyn menywod wedi darfod.

Er gwaethaf y cynnydd, mae’r angen am ein gwaith hanfodol yn parhau.

Mae gadael cymynrodd yn eich ewyllys yn ffordd wych o sicrhau eich gwaddol – gan alluogi Cymorth i Ferched Cymru i barhau i herio cam-drin domestig a mathau eraill o drais yn erbyn menywod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni am eich cynlluniau.

I adael rhodd, cysylltwch â’ch cyfreithiwr i drafod eich syniadau a rhoi’r wybodaeth ganlynol am yr elusen:

Enw a rhif yr elusen: Cymorth i Ferched Cymru, 1140962

Cyfeiriad: Tŷ Pendragon, Plas Caxton, Caerdydd, CF23 8XE

 

Diolch