Teimlo’n heini?
Mae gan Cymorth i Ferched Cymru leoedd elusennol ar gyfer Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd sy’n digwydd ar Ddydd Sul, Hydref 4ydd 2020. Byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â’n tîm! Y cyfan syddd angen i chi ei wneud yw codi £250, gan gynnwys blaen-dâl o £10 i sicrhau eich lle.
Byddwch yn ein cynorthwyo i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws Cymru, i ymgyrchu dros bolisïau a gwasanaethau effeithiol, i ddarparu hyfforddiant a chyngor arbenigol, ac i gefnogi’r rheini sydd wedi’u heffeithio o fewn ein cymunedau.
Gallwch gofrestru i ymuno â’n tîm hanner marathon gydag un o’n llefydd elusennol yma
Os nad yw rhedeg yn apelio atoch, ond hoffech serch hynny osod sialens i chi’ch hun er mwyn cefnogi Cymorth i Ferched Cymru, mae dewis enfawr o wahanol ddigwyddiadau chwaraeon sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn ar draws Cymru a thu hwnt.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru ar gyfer eich hoff ddigwyddiad, creu eich tudalen codi arian Just Giving neu Everyday Hero, a chofio rhoi gwybod i ni!
Byddwn ni’n rhoi’r holl gymorth ac adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda [email protected] Diolch!
Join our Open Consultation 📢 We want to hear how we can make our services more accessible to your community- during Covid-19 and beyond Find out more info and sign up 👇 27 Jan 2pm-3pm eventbrite.co.uk/e/violence-a… 27 Jan 5:30pm - 6:30pm eventbrite.co.uk/e/violence-a… pic.twitter.com/gJ5jKFeWbb