Ymgyrch Mae Menywod Cegog yn Newid Bywydau

 

“Mae hi mor gegog…”.

Mewn cymunedau yng Nghymru mae disgrifio menywod fel rhai ‘cegog’ bob amser wedi bod yn negyddol, gan gael ei ddefnyddio i feirniadu’r rhai oedd yn ‘anfoneddigaidd’, yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn ddiymddiheuriad.

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn falch o fod yn gegog. Mae bod yn gegog yn fraint nad oes gan lawer o fenywod, felly codwn ein llais ar y cyd dros yr holl rai hynny sydd wedi’u heffeithio gan bandemig trais yn erbyn menywod.

Bod yn gegog yw sut rydyn ni’n cyflawni pethau. Dyna sut rydyn ni’n newid bywydau.

Fe fyddwn ni’n codi llais dros yr 1 o bob 3 menyw sy’n dioddef trais yn ystod eu bywyd hyd nes ein bod ni i gyd yn gallu byw heb ofn.

Darllenwch ein herthygl yn Wales Arts Review yma am y defnydd o’r term ‘cegog’ ac am sail ein hymgyrch.

Byddwch yn weithgar wrth weithredu.  Byddwch yn gegog. Cefnogwch Cymorth i Ferched Cymru.

Rhowch £3 y mis yma

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr yma

Cefnogwch ni drwy brynu mwclis ‘cegog’ Wear and Resist yma

Mae ein gwaith a’n hymgyrchoedd wedi dylanwadu ar gyfraith a pholisi, wedi gwella prosesau’r llysoedd teulu, wedi creu offer addysgol a chanllawiau i ysgolion, wedi darparu offer a gwybodaeth hanfodol i gymunedau a gweithwyr proffesiynol, a llawer mwy.

Rydyn ni’n addo parhau i fod yn gegog, gan sicrhau:

  • Bod y rhai sydd â’r pŵer i greu newid yn gwrando.
  • Bod ein gweithredoedd bob amser yn cael eu harwain gan leisiau a phrofiadau goroeswyr.
  • Ein bod ni’n gwneud yr ymchwil i ddeall y tirlun sy’n newid.
  • Y gallwn ni ymgyrchu i greu ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o’r materion sy’n effeithio ar ein cymunedau.

 

Gyda’ch cymorth chi, byddwn ni’n dal ati i fod yn ‘gegog’ nes bod pawb yn ddiogel.