Cacennau Cri i Cymorth i Ferched Cymru

Dathlwch Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy gymryd rhan yn ein hymgyrch Cacennau Cri i Cymorth i Ferched Cymru!

Ymunwch ar ddydd Gwener 8 Mawrth, neu unrhyw adeg yn ystod y mis, i ddangos eich cefnogaeth i oroeswyr ledled Cymru.

Mae’n ffaith drist y bydd 1 o bob 3 menyw rydych chi’n eu hadnabod yn profi rhyw fath o drais yn ystod eu hoes. Mae angen i hyn ddod i ben – a gallwch CHI wneud gwahaniaeth!

Sefwch gyda Cymorth i Ferched Cymru trwy gofrestru nawr i gynnal digwyddiad Cacennau Cri i Cymorth i Ferched Cymru a chael mynediad at eich adnoddau ymgyrchu.

Sut mae’n gweithio?

Penderfynwch ar eich cynlluniau a sefydlwch eich tudalen codi arian Cymorth i Ferched Cymru. Gwahoddwch eich ffrindiau, eich teulu neu’ch cydweithwyr i ddigwyddiad yn eich cartref, yn eich cymuned, yn eich swyddfa, neu ar-lein, a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Paratowch eich coffi a’ch cacennau, dechreuwch siarad a chasglu rhoddion – mae’n ddigon hawdd!

Pam?

Mae eich digwyddiad yn ffordd berffaith o siarad am sut y gallwch chi helpu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod am byth, tra’n rhannu adnoddau a chael hwyl.

 

Cofrestrwch ar gyfer ymgyrch Cacennau Cri i Cymorth i Ferched Cymru yma.

 

Ebostiwch [email protected] am fwy o gymorth a gwybodaeth.