Rhoddion Cwmnïau

 

Pam na wnewch chi ystyried ffurfio partneriaeth gyda Cymorth i Ferched Cymru? Byddech chi’n bodloni amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol eich cwmni, gan greu gweithle hapusach, mwy bodlon, a chael effaith gadarnhaol enfawr ar ein gwaith ac ar fywydau goroeswyr trais a chamdriniaeth ledled Cymru.

Gallai eich cwmni helpu drwy wneud y canlynol:

Gallwn gynnig y canlynol i chi:

  • Cyfleoedd datblygu staff drwy fentora neu gynlluniau eraill
  • Cyfleoedd i rwydweithio a dysgu drwy ddigwyddiadau Cymorth i Ferched Cymru
  • Cymorth a hyfforddiant i ddatblygu eich polisi ac arferion o ran cam-drin domestig yn y gweithle
  • Cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus – byddwn ni’n gweithio gyda chi i sicrhau y caiff ein partneriaeth ei hyrwyddo.

Cysylltwch â ni i drafod yr opsiynau drwy gysylltu â [email protected].

Lawrlwythwch ein taflen codi arian isod neu cysylltwch â’n tîm codi arian os hoffech chi dderbyn taflenni neu adnoddau codi arian eraill drwy’r post.