Rydym ni’n darparu amrywiaeth o adnoddau, hyfforddiant a chymorth i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:Rydym ni’n darparu amrywiaeth o adnoddau, hyfforddiant a chymorth i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
Lawrlwytho Taflenni S.T.A.R
Gellir cyrchu’r holl adnoddau uchod drwy eFforwm Ymarferwyr ‘Mae Plant yn Bwysig’. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch ag [email protected]
Llyfrynnau Lloches S.T.A.R – Oed 4-17
Tri llawlyfr gweithgareddau wedi’u dylunio’n hyfryd i blentyn neu berson ifanc sy’n mynd i loches. Mae’r llyfr ar gael mewn tri dyluniad addas i oedrannau gwahanol, 4-6 oed, 7-11 oed a 12-17 oed. Gellir rhoi’r llyfrau hyn i blant a phobl ifanc cyn gynted ag y byddant yn dod i’r lloches i’w cynorthwyo i ymgyfarwyddo â bywyd yn y lloches. Gallant hefyd weithredu fel sylfaen ar gyfer sesiynau cymorth gan staff.
Os hoffech gael y rhain, cliciwch y dolenni isod.
Lawrlwytho Welcome to Refuge 4-7
Lawrlwytho Welcome to Refuge 7-11
Lawrlwytho Welcome to Refuge 12-17
Lawrlwytho Croeso i’r Lloches 4-7
Lawrlwytho Croeso i’r Lloches 7-11
Lawrlwytho Croeso i’r Lloches 12-17
Os hoffech gael copi caled, cysylltwch â: [email protected]
Pecyn Chwarae S.T.A.R
Llyfryn cymorth i lochesi, i’w ddefnyddio gan staff a rhieni i hyrwyddo chwarae sy’n canolbwyntio ar blant yn y lloches. Llawn syniadau a chyngor ar sut i chwarae gyda phlant, o ddatblygiad plant a chwarae i sut i osod yr ystafell chwarae. Os hoffech weld hwn, cliciwch yma.
Os hoffech gael copi caled, cysylltwch â: [email protected]
‘Crucial Crew’ S.T.A.R – Blwyddyn 6 a 7
Gellir cynnig cyflwyniad PowerPoint a hyfforddiant i wasanaethau cam-drin domestig sy’n cynnig gweithdai ‘Crucial Crew’ ar draws Cymru. Cyflwyniad sylfaenol ond addysgiadol i godi ymwybyddiaeth o beth yw cam-drin domestig a ble i fynd am help a chymorth.
Mae’r cyflwyniad PowerPoint hwn yn addas ar gyfer gweithdy 10 munud ‘Crucial Crew’ ond gellir ei ddefnyddio ar gyfer y gweithdy 25 munud hefyd gyda mwy o drafodaeth. Os caiff cyfnod hirach ei neilltuo i chi cysylltwch ag [email protected] am gyngor.
Lawrlwytho S.T.A.R Crucial Crew 2017
eDdiogelwch S.T.A.R
Cyfres o weithdai ymarferol, rhyngweithiol i rieni archwilio defnydd diogel o’r rhyngrwyd gyda’u plant o bob oed, gan gynnig lle i rieni drafod eu pryderon ac adeiladu eu hyder i siarad gyda’u plant am eu gweithgaredd ar-lein a’u hôl troed digidol. Mae’r gweithdai’n cynnwys sut i gadw’n ddiogel ar-lein, beth i edrych amdano a sut a ble i hysbysu am unrhyw bryderon.
Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch ag: [email protected]
Pecyn Cymorth S.T.A.R – Pob oed
Amrywiaeth o waith papur a chynllunio asesiadau angen i gefnogi gweithwyr plant cam-drin domestig i asesu’r angen a chynllunio cymorth mewn modd strwythuredig. Mae’r gwaith papur wedi’i gynllunio ar gyfer cymorth lloches ac yn y gymuned, er mwyn sicrhau’r wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaethau cam-drin domestig. Mae’r asesiad anghenion lliwgar yn denu sylw plant a phobl ifanc o bob oed.
Adnodd DVD ‘Getting Lucky?’
Cyllidwyd ‘Getting Lucky?’, sy’n ffilm fer a gynhyrchwyd, ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan bobl ifanc, gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Nod y ffilm yw codi ymwybyddiaeth o stereoteipio rhywedd, cydsyniad, perthynas iach a chamwahaniaethu, ac mae’n adnodd addas i ysgolion, canolfannau ieuenctid ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o’r materion hyn.
Mae Holly Jones yn bwriadu cyfarfod â Jamie mewn parti yn nhŷ ei ffrind nos Sadwrn, ar ôl i’w ffrind gorau Nicky ei pherswadio i ddod. Fodd bynnag, yn ystod y dydd, mae ei chwaer sydd wedi dieithrio, Charlotte, yn cyrraedd cartref y teulu, gan greu cryn densiwn yng nghartref y Jonesiaid. Gan ddianc i’r parti mae Holly a Nicky yn cyfarfod â Jamie a Sam sy’n ferchetwr, ond cyn hir ceir cyfres o ddigwyddiadau a dyw’r noson ddim yn mynd y ffordd roedd Holly, Nicky na Jamie wedi’i gynllunio.
Os hoffech gopi o’r ffilm neu ragor o wybodaeth cysylltwch ag: [email protected]
Atal: Rhaglen Pobl Ifanc S.T.A.R
Mae’r rhaglenni ataliol hyn yn cynnwys wyth sesiwn awr o hyd. Maen nhw’n hyblyg a gellir eu defnyddio gyda grwpiau bach yn ogystal â dosbarthiadau cyfan. Pobl ifanc sy’n arwain y sesiynau ac anogir trafodaethau grŵp. Maen nhw’n galluogi pobl ifanc i adnabod arwyddion o berygl yn gynnar ynghyd â pheryglon perthynas afiach, gan eu grymuso i wneud dewisiadau gwybodus. Mae’r sesiynau hefyd yn egluro’r materion cyfreithiol yn ymwneud â phob pwnc a ble i fynd am gymorth a chefnogaeth. Gellir defnyddio pob sesiwn unigol fel gweithdy ar gyfer noson rieni a hyfforddiant i athrawon.
Gofyniad: 2 hyrwyddwr i gyflwyno
Hyfforddiant S.T.A.R: 2 ddiwrnod
Byddwn yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol i gyflwyno’r rhaglen ac rydym yn annog gwaith partneriaeth gyda grwpiau aelodau lleol.
Ymyrraeth Gynnar: Clwb S.T.A.R – 6 i 11 oed
Mae’r rhaglen hon yn cynnig amgylchedd grŵp diogel a chyfrinachol i blant sydd wedi profi cam-drin domestig, er mwyn iddyn nhw ddeall ac archwilio eu teimladau ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd gartref.
Mae’r rhaglen yn cynnwys wyth sesiwn awr a hanner o hyd.
Mae chwarae a hwyl yn rhan greiddiol o bob sesiwn Clwb S.T.A.R. Mae’n arbennig o bwysig i blant sydd wedi profi cam-drin domestig oherwydd efallai nad yw hyn wedi bod yn bosibl mewn cartrefi ble mae ofn yn teyrnasu.
Gofyniad: 2 hyrwyddwr
Hyfforddiant S.T.A.R: 1 diwrnod
Byddwn yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol o wasanaethau cam-drin domestig arbenigol, ond rydym yn annog gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau plant arbenigol eraill.
Gwaith Grŵp S.T.A.R (4 – 6 oed) a (7 – 11 oed)
Nod y gwaith grŵp yw cryfhau’r berthynas rhwng y plentyn a’r fam yn dilyn cam-drin domestig. Mae’r rhaglen hon yn galluogi trafodaeth am eu profiadau, dealltwriaeth o effaith cam-drin domestig ar y plentyn a strategaethau ymdopi. Mae rhaglen gyfochrog yn cynnwys gwaith grŵp i famau a gwaith grŵp i blant.
Nifer o sesiynau: 10
Hyd y sesiwn: 2 awr
Gofyniad: 5 hyrwyddwr
Hyfforddiant S.T.A.R.: 2 ddiwrnod
Byddwn yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol o wasanaethau cam-drin domestig arbenigol, ond rydym yn annog gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau plant arbenigol eraill.
Hyfforddiant S.T.A.R. – 2 awr
Os hoffech ddilyn unrhyw ran o hyfforddiant S.T.A.R, cysylltwch ag: [email protected]
Gellir cyrchu’r holl adnoddau uchod drwy eFforwm Ymarferwyr ‘Mae Plant yn Bwysig’. Os hoffech ragor o wybodaeth am hyn, cysylltwch ag [email protected]
Cliciwch yma i weld CYP Primary Prevention Activities 2017 CYMRAEG
We're looking for 2 people to join our wonderful Business Support team. 💼Business Support Officers 💰£20,444.00 – £22,129.00 p/a pro rata 👉1 x Full time; 1 x Part time For more info & to apply, check out our website: welshwomensaid.org.uk/workwit… *Deadline approaching* pic.twitter.com/L2ThgbXRqF