Rydych chi wedi mewngofnodi. Allgofnodi
Angen help? Cliciwch yma neu ffonio 0808 80 10 800

Ardal yr Aelodau: Pwy ydym ni

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn ei hanfod yn sefydliad aelodaeth. Rydym ni’n eich cynrychioli, yn ymgyrchu drosoch, ac yn eich cefnogi chi, ein haelodau – ffederasiwn o elusennau lleol annibynnol sy’n cyflenwi gwasanaethau arbenigol ym maes cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod yng Nghymru.

Mae gennym staff sy’n gweithio ar draws Cymru i gyflenwi ein holl brosiectau sydd hefyd yn cynnwys Llinell Gymorth Byw Heb Ofn; y bartneriaeth Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol gydag aelod-wasanaethau; y prosiect adeiladu capasiti i wasanaethau arbenigol; a’r Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymru i aelod-wasanaethau.

Gallwch weld pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud yn ein gwybodaeth staff.

Os nad ydych chi’n siŵr pwy i gysylltu â nhw, defnyddiwch y manylion cyswllt ymholiadau cyffredinol isod.

Ffôn: 02920 541551
Ebost: [email protected]

🎉Sign up to run in support of #WelshWomensAid at the @CardiffHalf VIRTUAL Marathon 1-3 October. Be active in your activism. Sign up at cardiffhalfmarathon.co.uk/vir… and choose to run in support of WWA 👟 #CardiffHalf pic.twitter.com/NfwmBA46JB

About a week ago from WelshWomensAid's Twitter