Gwirfoddolwch gyda ni

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn recriwtio Ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’n Bwrdd

Oes gennych chi’r brwdfrydedd, yr amser a’r sgiliau i’n cynorthwyo i gyfeirio gwaith Cymorth i Ferched Cymru i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru?

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn elusen genedlaethol ddeinamig sydd wedi bod yn gweithio ers dros 40 mlynedd i gefnogi rhwydwaith gwasanaethau arbenigol Cymru i ddarparu gwasanaethau achub bywyd, ac i ymgyrchu dros newid a gwell ymatebion i oroeswyr, teuluoedd a chymunedau. Dyma gyfle unigryw i fenywod sy’n ymroddedig i’n gweledigaeth a’n gwerthoedd ffeministaidd ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr ymroddedig a medrus iawn a chyfrannu at ein cyfeiriad yn y dyfodol.

Rydyn ni’n chwilio am Ymddiriedolwyr ychwanegol i ymuno â’n Bwrdd, sydd â’r sgiliau a’r profiad i ategu ein harweinyddiaeth bresennol. O’r rhain, bydd o leiaf un Ymddiriedolwr yn fenyw sy’n dal swyddi arwain o fewn ein haelodaeth o sefydliadau gwasanaeth arbenigol lleol. Mae’r rhain yn apwyntiadau di-dâl er bod costau teithio rhesymol a threuliau cysylltiedig yn cael eu darparu, ynghyd â hyfforddiant a chefnogaeth berthnasol trwy’r cyfnod cynefino a thu hwnt.

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cyn ymgeisio, e-bostiwch [email protected].

Eisiau gwybod mwy? Croeso i chi cysylltu ni i trafod yr cyfleoedd mwy:

Ebost [email protected]

Ffoniwch 02920 541551.

Mae’r swyddi hon yn agored i fenywod yn unig, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad byw o fod yn fenyw o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn unol ag Atodlen 9, Rhan 1. Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo i sicrhau bod ein sefydliad yn lle cynhwysol i weithio. Rydym yn annog ceisiadau gan fenywod o bob cefndir a chymuned bydd ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eraill a phobl ag anabledd sy’n cwrdd â’r meini prawf swydd hanfodol yn sicr o gael cyfweliad.