Beth yw trais yn erbyn menywod a merched?

What is violence against women and girls?

Mae trais yn erbyn menywod a merched yn derm ambarél sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw fath o gam-drin sydd wedi’i gyfeirio at fenywod a merched.

Gall trais yn erbyn menywod a merched gynnwys cam-drin domestig; treisio a thrais rhywiol; stelcio; priodas dan orfod; yr hyn sy’n cael ei alw’n drais ar sail anrhydedd; anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM); masnachu pobl a cham-fanteisio rhywiol gan gynnwys drwy’r diwydiant rhyw; ac aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac mewn bywyd cyhoeddus.

Mae’r term Trais yn Erbyn Menywod a Merched yn ein helpu ni i weld natur anghymesur y mathau hyn o gam-drin ac yn ein helpu i ddeall bod y cam-drin hwn wedi’i gyfeirio at fenywod a merched   am eu bod nhw’n fenywod a merched.

Mae trais yn erbyn menywod a merched yn achos a chanlyniad anghydraddoldeb rhwng menywod a dynion yn ein cymdeithas.

 

For support

Anyone affected by these forms of violence and abuse should be able to access help and support when they need it and every case should be taken seriously.

The Live Fear Free Helpline is available 24 hours a day, 7 days a week for women, children and men experiencing domestic abuse, sexual violence or other forms of violence against women.

¹ Nododd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2020 fod 92% o ddiffinyddion mewn erlyniadau yn ymwneud â cham-drin domestig yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn ddynion. Mae tystiolaeth bellach gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn dangos natur anghymesur o ryweddol y troseddau hyn.