Beth yw’r hyn a elwir yn drais ar sail anrhydedd?

Nid oes unrhyw ddiffinad y mae cytundeb arno yn gyffredinol o drais ar sail ‘anrhydedd’. Caiff ei ddefnyddio yn gyffredinol i gyfeirio at droseddau gan gyflawnwyr sy’n tybio eu bod yn diogelu neu’n amddiffyn ‘anrhydedd’ teulu neu gymuned. Mae’r troseddau hyn yn aml yn cynnwys mathau o gam-drin domestig a thrais rhywiol.

Gall ‘anrhydedd’ o’r fath gael ei ddefnyddio i gyfiawnhau ystod o ymddygiadau camdriniol, fel arfer yn erbyn menywod a merched. Serch hynny mae’r rhain yn groes i hawliau dynol ac ni ddylent gael eu hesgusodi am unrhyw reswm.

I gael cymorth

Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.