Rwy’n poeni am rywun arall

Dos and don’ts

Mae’r fideo hwn ar gael mewn llu o ieithoedd gwahanol – cliciwch yma i wylio.

Os ydych chi’n poeni bod rhywun rydych chi’n ei adnabod yn profi, neu’n oroeswr, cam-drin neu drais domestig, gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud. Ond nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i gefnogi goroeswr. Mae ychydig o awgrymiadau gennym ni i’ch helpu chi.

Yn gyntaf, os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol neu os ydych chi’n dyst i gam-drin, dylech bob amser ffonio 999.

Cyfeirio

Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.

Gallai fod yn ddefnyddiol gwybod ble i gyfeirio goroeswr am fwy o gymorth.

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.

Os ydych chi’n poeni am blentyn ac yn ansicr am yr hyn y gallwch chi ei wneud, ffoniwch yr NSPCC ar 0808 800 500.

Fel rhan o brosiect Gofyn i Fi, mae Cymorth i Ferched Cymru yn darparu hyfforddiant a chymorth parhaus am ddim sy’n helpu aelodau’r gymuned i gychwyn sgyrsiau am gam-drin, i wybod ble mae cymorth ar gael ac i wybod sut i gynnig ymatebion cefnogol i unrhyw berson sy’n rhannu profiadau o gam-drin.  Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am brosiect Gofyn i Fi yma.

Gofalu am eich hunan

Gall siarad â rhywun am brofiadau’r person hwnnw o gam-drin neu drais sbarduno emosiynau cymhleth neu hyd yn oed atgofion poenus i chi’ch hun. Mae ffiniau iach, hunan-ofal, a bod yn ymwybodol o’ch gallu emosiynol eich hun i gefnogi eraill yn bwysig i’ch galluogi chi i roi ymatebion defnyddiol i oroeswyr.  Felly sicrhewch eich bod chi’n cael unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch. Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael i unrhyw un sy’n poeni os oes angen i chi siarad.

Mae gan y mwyafrif o wasanaethau trais domestig gymorth ar gael a gallant gynnig awgrymiadau o ran y camau eraill y gallech chi eu cymryd. Ewch i dudalen gwasanethau lleol i wybod mwy am wasanaethau yng Nghymru.