Cymorth i Ferched Cymru yw’r corff arweiniol yng Nghymru sy’n gweithio i ddileu cam-drin domestig a mathau eraill o drais yn erbyn menywod.
Rydym ni’n cynnig cyflogau a phecynnau buddiannau cystadleuol.
Yn ogystal â chyflog cystadleuol rydym ni’n cynnig amrywiaeth o fuddiannau gan gynnwys cyfraniadau pensiwn a lwfansau gwyliau hael.
Elfen graidd o’n gwaith yw creu cyd-destun lle gall menywod a phlant gyflawni ymreolaeth a grym. I gyflawni hyn, mae ein sail gwerthoedd a gwasanaethau wedi esblygu mewn ymateb i anghenion sy’n datblygu, poblogaethau sy’n newid a ffyrdd newydd a diwygiedig o feddwl am drais yn erbyn menywod a phlant.
Caiff ein diwylliant ei lywio gan werthoedd ffeministiaeth a chydraddoldeb, grymuso, cydweithio, unplygrwydd a rhagoriaeth. Mae ein hymagwedd yn annog cyd-barch, creadigrwydd ac arloesi ac rydym ni’n cynnig trefniadau hyblyg a phatrymau gwaith iach i ddiwallu amgylchiadau unigol.
Rydym ni’n rhoi lle i’n gweithwyr dyfu hefyd. Caiff pawb gefnogaeth drwy gynlluniau dysgu a datblygu unigol a cheir cyfleoedd i gysgodi meysydd eraill yn y busnes, cymryd rhan mewn digwyddiadau a dysgu sgiliau newydd.
_____
Today @WelshGovernment launched the #VAWDASV Strategy 22-26. The ambition for Wales to be ‘the safest place to be a woman’ is a bold one considering the reality of epidemic rates of violence and abuse far too many are experiencing. Our full statement: bit.ly/3sUdQZf pic.twitter.com/fo7p2cWaU4