Gweithiwch gyda ni

Cymorth i Ferched Cymru yw’r sefydliad ambarél cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau arbenigol y trydydd sector sy’n gweithio i ddileu cam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais yn erbyn menywod.

 

Ein cyflogau a’n buddion

Diwylliant

Mae ein diwylliant yn annog cydbarchu, cydweithredu, creadigrwydd, ac arloesi.  Mae ein dull gweithredu yn ymarferol ac rydyn ni’n cynnig trefniadau hyblyg a phatrymau gwaith iach i fodloni amgylchiadau unigol.

Rydyn ni’n rhoi lle hefyd i’n gweithwyr dyfu. Mae cyfleoedd i gysgodi gwaith ym meysydd eraill y busnes, cymryd rhan mewn digwyddiadau a meithrin sgiliau ychwanegol.

Mae’r rhan fwyaf o’n rolau yn agored i fenywod yn unig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn unol ag Atodlen 9, Rhan 1, sy’n cynnwys ymgeiswyr sydd â phrofiad bywyd o fod yn fenyw.

We value diversity and are committed to promoting equality. We encourage applications from women from all backgrounds and communities – applicants from Black, Asian or other ethnic minority backgrounds and people with a disability who meet the essential job criteria will be guaranteed an interview.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan fenywod o bob cefndir a chymuned – bydd ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eraill a phobl ag anabledd sy’n bodloni’r meini prawf swydd hanfodol yn sicr o gael cyfweliad.

Ein buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol, mae’r rhan fwyaf o’n swyddi’n gallu manteisio ar y canlynol:

Gweithio hyblyg: chi sy’n dewis pryd i weithio – gallwch gyflawni oriau eich contract rhwng 7am a 7pm.

Gweithio hybryd: chi sy’n dewis ymhle i weithio – yn un o’n swyddfeydd, gartref neu gyfuniad o’r ddau.

Cewch ddewis sut i weithio: rydyn ni’n ymddiried yn ein gweithwyr i ddefnyddio eu doethineb, eu menter a’u sgiliau i gyflawni eu rolau, gyda chymorth ac arweiniad ar gael pan fydd eu hangen.

Iechyd a llesiant: gwiriadau am ddim gydag optegydd, mynediad at ein llinell gymorth cwnsela a chyngor 24 awr, sesiynau cwnsela a CBT wyneb yn wyneb/ar-lein, sesiynau ‘Arfer Myfyriol’ unigol neu grŵp i’ch cefnogi wrth gyflawni eich rôl, cyfarfodydd tîm rheolaidd (rhithwir ac wyneb yn wyneb) i ddod i adnabod cydweithwyr ac ar gyfer cymorth gan gymheiriaid, a chyfle i ymuno â’n Grŵp Gweithredu Croestoriadedd i drafod a helaethu gweithgareddau i ddatblygu Cymorth i Ferched Cymru fel gweithle cynhwysol.

Pensiwn: cyfraniad pensiwn cyflogwr o 6% yn dilyn cwblhau cyfnod prawf o 6 mis.

Amser i ffwrdd o’r gwaith: lwfans gwyliau blynyddol o 25 diwrnod ynghyd â gwyliau banc, Noswyl y Nadolig, yn ogystal ag absenoldeb teuluol ac absenoldeb trugarog â thâl ar gyfer adegau pan nad yw bywyd yn mynd yn ôl y disgwyl.

 

Ffyrdd i wneud cais am rôl gyda Cymorth i Ferched Cymru

Mae tair ffordd wahanol y gallwch wneud cais am un o’n rolau agored:

  1. Cwblhau ffurflen gais ar-lein – mae’r manylion i’w gweld yn y ddogfen pecyn swydd. Cyn i chi ddechrau, gallwch weld rhestr o’r holl gwestiynau y bydd angen i chi eu hateb.
  2. NEU cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn MS Word o’r cais a’i gyflwyno trwy ebost.
  3. NEU gofynnwch am gopi papur drwy ebostio [email protected].

Pa mor hir fydd hi’n ei gymryd i gwblhau’r cais?

  • Rydyn ni wedi ceisio cadw’r ffurflen mor fyr â phosibl. Rydyn ni’n amcangyfrif y dylai gymryd rhwng awr a dwy awr i baratoi a chyflwyno eich cais.
  • Unwaith y byddwch yn dechrau’r ffurflen gais, fyddwch chi ddim yn gallu arbed eich gwaith a dychwelyd ato’n ddiweddarach, felly rydyn ni’n argymell eich bod yn lawrlwytho’r rhestr o gwestiynau ac yn paratoi eich atebion ymlaen llaw.
  • Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl neu os oes gennych chi ofynion hygyrchedd penodol yr hoffech chi eu trafod gydag aelod o’n tîm recriwtio, gallwch gysylltu â ni ar 02920 541551 neu anfon ebost yn gofyn am alwad ffôn i [email protected].

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich cais?

Os cewch chi’ch gosod ar y rhestr fer, bydd aelod o’r tîm recriwtio yn cysylltu â chi gyda manylion y camau nesaf.

Eisiau gwybod mwy? Mae croeso i chi gysylltu â ni:

Ebost: [email protected]

Ffôn: 02920 541551.

Byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi os oes gennych chi’r canlynol: 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 
  • Ymrwymiad i arfer gwrth-wahaniaethol a chyfle cyfartal a’r gallu i gymhwyso ymagwedd groestoriadol i bob maes gwaith. 
  • Hyblyg a chanolbwyntio ar ddatrysiadau gydag ymagwedd ragweithiol a chadarnhaol. 
  • Gwybodaeth am yr ysgogiadau strategol sy’n wynebu’r sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

I ymgeisio cwblhewch y ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal drwy’r ddolen: https://www.surveymonkey.co.uk/r/NEWER23-24

Neu gallwch ebostio [email protected] i ofyn am fersiwn dogfen word o’r cais. Mae hon yn broses ymgeisio newydd, felly cysylltwch â ni os cewch chi broblem wrth ymgeisio. 

Byddwn yn cadw eich ffurflenni cais ar ffeil am 6 mis, a bryd hynny gallwch ailgyflwyno eich cais os ydych chi’n dal i ddymuno cael eich ystyried am rolau.