23rd May 2018 - 9-2pm | |
Seminar Cefnogi Menywod sydd wedi’u Hecsbloetio gan y Diwydiant Rhyw
Seminar Cefnogi Menywod sydd wedi’u Hecsbloetio gan y Diwydiant Rhyw
Cymorth i Ferched Cymru mewn partneriaeth gyda Cymru Ddiogelach
Fe’ch gwahoddir i ddigwyddiad fydd yn trafod cefnogi menywod sy’n cael eu hecsbloetio gan y diwydiant rhyw.
Hoffai Cymorth i Ferched Cymru a Cymru Ddiogelach eich gwahodd i seminar ddydd Mercher 23 Mai i drafod cefnogi menywod sy’n cael eu hecsbloetio gan y diwydiant rhyw yng Nghymru. Nod y digwyddiad yw denu siaradwyr sy’n arbenigo ar y pwnc, cynnal trafodaethau agored ynghylch yr argymhellion a’r camau gweithredu allweddol i sicrhau bod menywod sy’n cael eu hecsbloetio gan y diwydiant rhyw yn derbyn cymorth gyda pholisi ac ymarfer i ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Yn y digwyddiad fe glywch chi gan y siaradwyr canlynol:
- Nazir Afzal, Cynghorydd Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Fiona Broadfoot, goroeswr ac actifydd, Build a Girl
- Cynrychiolwyr Cymorth i Ferched Cymru, Cymru Ddiogelach, Heddlu Gwent, Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru ac eraill.
Bydd y seminar o fudd yn benodol i’r canlynol:
- Gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd a chyfiawnder troseddol
- Gwasanaethau trais yn erbyn menywod arbenigol
- Comisiynwyr a phenderfynwyr
* Darperir cinio rhwydweithio – rhowch wybod os oes gennych chi unrhyw anghenion dietegol
* Darperir agenda’r diwrnod yn agosach at y dyddiad.
Members – Free
Non Members – £15
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, cliciwch yma.
Seminar Cefnogi Menywod sydd wedi’u Hecsbloetio gan y Diwydiant Rhyw
University of South Wales, Newport City Campus, Usk Way, Newport, UK