ddydd Llun 9 Ebrill, dydd Mawrth 10 Ebrill a dydd Sadwrn 9 Mehefin 13:30 – 16:30 | |
Gweithdy 100 Mlynedd 100 Baner
Bydd PROCESSIONS a Cymorth i Ferched Cymru’n cynnal cyfres o weithdai gwneud baneri dan arweiniad Hexxx, cydweithfa celf fenywaidd ddydd Llun 9 Ebrill, dydd Mawrth 10 Ebrill a dydd Sadwrn 9 Mehefin.
Mae PROCESSIONS yn gyfle unwaith ac am byth i gymryd rhan mewn gwaith celf cyfranogiad eang i ddathlu can mlynedd o bleidleisiau i fenywod. Mae Artichoke yn gwahodd menywod* a merched o bob rhan o’r DU i ddod at ei gilydd ar strydoedd Caerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain ddydd Sul 10 Mehefin 2018 i nodi’r foment hanesyddol hon mewn portread byw, symudol o fenywod yn yr 21ain ganrif. Cynhyrchir PROCESSIONS gan Artichoke, y cynhyrchydd celf mwyaf yn y DU yn y parth cyhoeddus, fel rhan o 14-18 NOW, rhaglen gelf swyddogol y DU yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Grŵp o artistiaid o dde Cymru a Swydd Gaerhirfryn yw Hexxx (Jessye Curtis, Phoebe Davies a Sarah Smith). Drwy gydweithio a gweithredu cyfunol maent yn creu gwaith sy’n archwilio dynameg grym a pherthnasoedd cydsefyll. Mae eu gwaith yn aml yn ddibynnol ar safle a chyd-destun, gan ddefnyddio mewnosodiadau, perfformio byw, geiriau print a llafar i archwilio profiadau hunangofiannol, hanesion a’r hyn nas llefarir. Gallwch ymchwilio eu gwaith yma: phoebedavies.co.uk; saucysez.com; jessyecurtis.com
Mae’r gweithdai hyn yn un o 10 comisiwn baner Artichoke fel rhan o raglen 100 Mlynedd 100 Baner PROCESSIONS. Mae 100 o artistiaid benywaidd wedi’u comisiynu i greu baneri gyda grwpiau cymunedol ar hyd a lled y wlad yn y cyfnod sy’n arwain at PROCESSIONS.
Bydd y baneri hyn yn ffurfio rhan o’r gwaith celf enfawr hwn a chânt eu harddangos yn gyhoeddus ar draws y DU yn dilyn y digwyddiadau.
Ar gyfer y gyfres hon o weithdai, mae Cymorth i Ferched Cymru’n gwahodd goroeswyr, aelodau a ffrindiau i ddod ynghyd i wneud baner canmlwyddiant unigryw fydd yn mynegi syniadau, pryderon a gobeithion menywod yn yr 21ain ganrif. Mae’n gyfle i ddysgu sgiliau newydd gan artistiaid profiadol, gwneud baner unigryw, fynegiannol fydd yn para, ac ymuno â miloedd fenywod i ddathlu 100 mlwyddiant y bleidlais i fenywod.
Cynhelir y gyfres o weithdai dan arweiniad Hexxx, ddydd Llun 9 Ebrill, dydd Mawrth 10 Ebrill a dydd Sadwrn 9 Mehefin 13:30 – 16:30 ym mhrif swyddfa Cymorth i Ferched Cymru ym Mhentwyn, Caerdydd.
- Bydd y ddau weithdy cyntaf yn canolbwyntio ar Sloganau, Estheteg a Golygu, datblygu cynllun cyfunol i’r faner, llais gan weithgor Cymorth i Ferched Cymru. Caiff cysyniad terfynol y faner ei gynllunio ar y cyd erbyn diwedd yr ail weithdy.
(Gan fod stiwdio Hexxx yn Llundain, caiff y faner ei chynhyrchu rhwng gweithdy dau a tri gan Hexxx yn Llundain).
- Bydd y gweithdy olaf yn gyfle i’r cyfranogwyr adfyfyrio ar y faner derfynol cyn i’r grŵp ei chario yn PROCESSIONS Caerdydd ar 10 Mehefin 2018.
Gofynnir i’r holl gyfranogwyr sicrhau eu bod ar gael ar gyfer y tri gweithdy wrth archebu.
Ddydd Sul, 10 Mehefin, bydd menywod a merched yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain yn cyd-gerdded fel rhan o’r gwaith celf cyfranogiad eang dathliadol hwn.
Ceir rhagor o fanylion a chofrestru ar gyfer PROCESSIONS Caerdydd yma: www.processions.co.uk
Dilynwch y digwyddiad: @processions2018 / #PROCESSIONS2018
*y rheini â hunaniaeth fenywaidd neu anneuaidd
Cynhwysir te, coffi a lluniaeth ysgafn, ond anogir cyfranogwyr i ddod â’u bwyd a’u diod eu hunain.
Efallai y bydd gofyn i gyfranogwyr ddod â deunyddiau i’w defnyddio ar y diwrnod. Anfonir rhagor o fanylion pan fydd y cyfranogwyr wedi’u cadarnhau.
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, a ddyrennir ar sail y cyntaf i’r felin.
Cofrestrwch yma.
Gweithdy 100 Mlynedd 100 Baner
Welsh Womens Aid, Caxton Place, Cardiff, UK