26 April 2018 - 3-5pm | |
Dathlu Tair Blynedd ers Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
Yng nghwmni Jane Hutt AC
26 Ebrill 2018, 3-5pm, Yr Oriel, Y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd
Fe’ch gwahoddir i ddigwyddiad i ddathlu tair blynedd ers cyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Mae’r Ddeddf hon yn garreg filltir ddeddfwriaethol, yn torri tir newydd fel y ddeddf gyntaf o’i math yn y DU ac yn Ewrop. Mae’n ceisio mynd i’r afael â thrais erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy well ymateb cyfunol yn y sector cyhoeddus, arweinyddiaeth gryfach a ffocws mwy cyson ar y ffordd rydym ni’n ymdrin â’r materion hyn yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd i gydnabod llwyddiannau’r Ddeddf, y camau rydym ni wedi’u cyflawni hyd yma a’r gwaith sydd o’n blaen.
I gofrestru i ddod i’r digwyddiad hwn (am ddim) cliciwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/celebrating-three-years-since-the-vawdasv-wales-act-2015-tickets-44837834169
Dathlu Tair Blynedd ers Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
The Senedd, Cardiff Bay Link Road, Cardiff, UK