Dydd iau 29ain Tachwedd 2018 | |
Cynhadledd Genedlaethol Cymorth i Ferched Cymru – Tachwedd 29ain 2018
40 y Dyfodol: Yn herio ac yn atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gyffredin ym mhob rhan o Gymru, fel ag y maent ar draws y DU a’r byd. Nid ydynt, fodd bynnag, yn anochel. Mae modd eu hatal.
Yn ein 40fed blwyddyn, mae Cymorth i Ferched Cymru yn edrych ymlaen at y deugain mlynedd nesaf gyda’r nod o ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Bydd Cynhadledd Genedlaethol Cymorth i Ferched Cymru yn gyfle cyffrous i ddod ag arbenigedd, gweithredu a llunio polisi ynghyd er mwyn ystyried ein hymrwymiad yng Nghymru i atal trais trwy gyfrwng addysgu, grymuso ac ymgysylltu a hynny â’r nod o herio agweddau ac ymddygiad ar draws cymdeithas. Gyda chyflwyniadau, gweithdai a thrafodaethau panel, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i glywed gan academyddion, gweithwyr proffesiynol profiadol a goroeswyr, i drafod y cyfleoedd i randdeiliaid ar draws Cymru weithredu’n uchelgeisiol yn y deugain mlynedd nesaf. Gweler y manylion isod:
Ar hyn o bryd mae’r siaradwyr / sefydliadau canlynol yn mynychu:
- Eleri Butler, Prif Weithredwr, Cymorth i Ferched Cymru
- Marai Larasi, Cyfarwyddwr Gweithredol, Imkaan
- Yasmin Khan, Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Dr Sundari Anitha, Prifysgol Lincoln
- Centre for Women’s Justice
- End Violence against Women Coalition
Cyhoeddir mwy o siaradwyr ac arweinwyr gweithdai yn nes at yr amser.
Cofrestrwch YMA heddiw!
Cynhadledd Genedlaethol Cymorth i Ferched Cymru – Tachwedd 29ain 2018
Aberystwyth University, Aberystwyth, UK