Nos Fawrth 19 Mawrth 2019, 18:00 – 19:30PM | |
Cefnogi plant i wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri
Cadw lle ar gyfer achlysur lansio’r ‘AGENDA Cynradd: Cefnogi Plant i Wneud i Berthnasoedd Cadarnhaol Gyfri’
Noddir y digwyddiad hwn gan Lynne Neagle AC.
Ymhlith y siaradwyr bydd:
- Lynne Neagle, Aelod Cynulliad a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
- Yr Athro Emma Renold, Prifysgol Caerdydd
- Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
- Lucy Emmerson, Fforwm Addysg Rhyw
- Ceri Parry a Rhiannon Evans, Ysgol Gymraeg Casnewydd
- Catrin Pallot, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
Adnodd am ddim yw’r AGENDA* Cynradd ar gyfer ymarferwyr addysgol sydd am rymuso plant (7-11 oed) i wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri yn eu hysgol a’u cymuned. Trwy weithgareddau cychwynnol ac astudiaethau achos, mae’r AGENDA Cynradd yn eich gwahodd i archwilio dulliau cynhwysol, creadigol, sy’n seiliedig ar hawliau o ymdrin ag amrywiaeth o faterion gan gynnwys: teimladau ac emosiynau; cyfeillgarwch a pherthnasoedd; delwedd y corff; cydsyniad; cydraddoldeb rhyw a rhywioldeb a thegwch. Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, cysylltwch â: [email protected] neu cliciwch yma
*Cefnogir yr AGENDA Cynradd gan Brifysgol Caerdydd, Comisiynydd Plant Cymru, NSPCC Cymru, Llywodraeth Cymru a Cymorth i Ferched Cymru.
Cefnogi plant i wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri
Pierhead Building, Cardiff, UK