Pecyn Cymorth ar gyfer Gwylwyr COVID 19

Gall hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol gynyddu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chael effaith ar rwydweithiau diogelwch a chymorth goroeswyr. Yn awr yn fwy nag erioed, mae’n bwysig ein bod yn deall trais a chamdriniaeth ac yn cefnogi anghenion goroeswyr.
Mae ymateb cymunedol ac undod cymdeithasol hyd yn oed yn fwy hanfodol wrth fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ond mae angen inni sicrhau y caiff hyn ei wneud yn ddiogel ac effeithiol er mwyn diwallu angehnion goroeswyr ledled Cymru yn y ffordd orau.
Rydym wedi datblygu’r Pecyn Cymorth hwn ar gyfer Gwylwyr, sy’n cynnwys cyngor a gwybodaeth benodol i gymdogion pryderus, gwirfoddolwyr a chyflogwyr ymgysylltiol, newyddiadurwyr ac eraill er mwyn sicrhau y gallant godi ymwybyddiaeth a chyfeirio at gymorth mewn ffordd ddiogel.
Gair i Gall – sut i weithredu’n ddiogel a sut i gynorthwyo
Cyfeirio’n Ddiogel at Gymorth: Canllawiau ar gyfeirio a defnyddio geiriau côd yn ystod COVID 19
Cyngor ar Ddiogelwch a Hunanofal ar gyfer Goroeswyr sy’n Ynysu
Gwybodaeth i Ffrindiau a Theulu
Mewn argyfwng: Os yw’r drwgweithredwr yn eu bygwth, yn ymosod arnynt neu’n eu dilyn, dylent ffonio 999 cyn gynted â phosibl.
Cofiwch am y System Ateb Tawel – os na allwch siarad pan fydd y gweithredwr yn ateb, pwyswch 55 er mwyn gwneud iddynt wybod eich bod mewn perygl ac yn methu siarad. Dyma bosteri i chi eu rhannu i sicrhau bod mwy o bobl yn gwybod am hyn:
Silent Solution poster A4 WALES (ENG)
Silent_Solution_poster_A4_WELSH
Ffeithluniau i’w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol
Bydd hyrwyddo Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn eang ar y cyfryngau cymdeithasol o gymorth wrth gynyddu ymwybyddiaeth o ble y gall goroeswr, neu unrhyw un sy’n pryderu am rywun arall, dderbyn cymorth a chyngor. Rydym wedi creu ffeithluniau y gallwch eu lawrlwytho a’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn sgyrsiau grŵp.
Ffeithluniau ar gyfer Gwylwyr
Cyflogwyr
Mae llawer o bobl wedi newid i weithio gartref mewn ymateb i’r canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a hunanynysu. I lawer o oroeswyr, golyga hyn fod y cyfle i gael gweithle cefnogol wedi newid. Fodd bynnag, mae rheolwyr yn parhau i gysylltu’n rheolaidd â’u staff ac mae camau y gallwch eu cymryd i barhau i fod yn gefnogol.
Cefnogi staff sy’n profi Cam-drin Domestig yn ystod pandemig COVID 19: Gwybodaeth i Reolwyr
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddolwyr cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn darparu cysylltiadau hanfodol i bobl â’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod cyfnod o gadw pellter cymdeithasol a hunanynysu. Efallai eu bod yn dod i gysylltiad â goroeswyr camdriniaeth ac mae’n bwysig eu bod yn gwybod sut i’w cyfeirio mewn ffordd ddiogel a chefnogol at Linell Gymorth Byw Heb Ofn a gwasanaethau arbenigol lleol.
Canllawiau ar gyfer gwirfoddoli dros gam-drin domestig a thrais rhywiol
Plant a Phobl Ifanc
Mae’r dolenni cyswllt isod yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc ar berthnasoedd iach a chymorth yn ystod COVID 19, yn seiliedig ar ein Cyfres o Wasanaethau Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch (STAR):
- Perthnasoedd Iach
- Perthnasoedd Ar-lein
- Perthnasoedd sy’n niweido
- Ymdopi â chamdriniaeth o’r gorffennol
- Gwirio a Stilio – cyflawni camdriniaeth
- FGM-Mae dy gorff yn eiddo i TI
- Priodas dan Orfod
Newyddiadurwyr
Mae gan y cyfryngau gyfle unigryw a phwerus i effeithio ar y ffordd y mae’r gymdeithas – gan gynnwys drwgweithredwyr, goroeswyr a’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u cymunedau – yn derbyn negeseuon ynghylch camdriniaeth a thrais yn ystod COVID 19.
Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau ar gyfer newyddiadurwyr sy’n adrodd am drais yn erbyn menywod yma.
Canllawiau i newyddiadurwyr sy’n adrodd am drais yn erbyn menywod a merched yn ystod COVID 19