Mae’r Amser ar Ben: Briff ac Adduned i Weithredu ar Ddiwrnod Rhyngwaldol y Menywod 2019
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod diwethaf (Mawrth 8fed) arweiniodd Cymorth i Ferched Cymru dros 150 o weithredwyr, ymgyrchwyr, eiriolwyr a goroeswyr benywaidd i sefyll mewn undod gyda goroeswyr ar draws Cymru i ddweud bod yr Amser ar Ben ar ddrwgweithredwyr pob math o drais, cam-drin ac aflonyddu yn erbyn menywod, ac ar yr agweddau a’r diwylliant sy’n caniatáu i hynny ffynnu.
Gyda’n gilydd fe fynnom fod[1]:
- yr Amser ar Ben ar beidio ag adnabod, herio a chosbi ymddygiad drwgweithredwyr.
- yr Amser ar Ben ar fenywod a merched yn gorfod byw gyda’r profiad o aflonyddu, bygwth, trais a cham-drin o ddydd i ddydd.
- yr Amser ar Ben ar beidio â chredu goroeswyr aflonyddu rhywiol a’u beio am y cam-drin.
Eleni, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac i adeiladau ar weithredoedd ymgyrch ‘Mae’r Amser ar Ben’ yng Nghymru trwy gydol 2018-19, hoffem eich gwahodd i addunedu i gefnogi cynllun gweithredu 5-pwynt er mwyn sicrhau bod yr Amser ar Ben ar aflonyddu rhywiol a cham-drin yng Nghymru. Dangoswch eich cefnogaeth os gwelwch yn dda i holl oroeswyr cam-drin ac i’r angen i ddal drwgweithredwyr i gyfrif.
Heddiw, safwn mewn undod i ddatgan bod yr Amser ar Ben ar aflonyddu rhywiol yng Nghymru, nid yw’n anochel a gellir ei atal trwy ei wrthsefyll gyda’n gilydd. Galwn am fyd lle mae cymunedau yn herio aflonyddu, trais a cham-drin menywod a merched, lle nad yw aflonyddu rhywiol yn cael ei oddef o gwbl o fewn ein sefydliadau addysgol, ein gweithleoedd, Senedd y DU na Chynulliad Cymru. Mae’r diffyg gweithredu i ddileu aflonyddu rhywiol a cham-drin yng Nghymru hyd yn hyn yn cael effaith negyddol ar oroeswyr, ac ar bob menyw a merch, ac mae’n effeithio ar yr hyder cyffredinol mewn systemau i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol a cham-drin.
Addunedwn i alw ar gyflogwyr, sefydliadau ac unigolion yng Nghymru i gymryd 5 cam i ddileu aflonyddu rhywiol a cham-drin:
- Peidiwch cadw’n dawel. Helpwch greu cymunedau a gweithleoedd lle nad yw aflonyddu rhywiol a cham-drin yn cael ei oddef, a lle bo’n digwydd, sicrhewch y gweithredir arno ac y caiff drwgweithredwyr eu herio a’u dal i gyfrif.
- Anogwch gyflogwyr i ddefnyddio polisïau cadarn, gweithdrefnau atebolrwydd clir a hyfforddiant effeithiol yn y gweithle er mwyn sicrhau bod y rheini sy’n datgelu aflonyddu rhywiol a cham-drin yn cael eu credu.
- Grymuswch fenywod a merched i wybod eu hawliau ac i fanteisio arnynt ac i gael cyfiawnder heb gosb, a hynny mewn ffyrdd sy’n cynnwys anghenion menywod a merched Duon a lleiafrifol, menywod sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol, menywod mudol, menywod hŷn, menywod anabl, menywod trawsrywiol, a menywod a merched mewn ardaloedd gwledig.
- Mynnwch gyllid cynaliadwy i wasanaethau arbenigol hanfodol ar draws Cymru fel eu bod ar gael pryd bynnag a lle bynnag y bydd goroeswyr eu hangen.
- Heriwch a dilëwch anghydraddoldeb rhywiol fel achos a chanlyniad aflonyddu rhywiol a cham-drin, ynghyd â systemau cysylltiedig o orthrwm a ddioddefir gan fenywod a merched megis rhagfarn ar sail rhyw, hil, gallu, dosbarth cymdeithasol neu oed, a homoffobia, trawsffobia, deuffobia, senoffobia ayyb.
#Mae’r Amser ar Ben#NifyddCymru’nCadw’nDawel
Llofnodwyr:
Adam Price, Assembly Member, Plaid Cymru |
Ali White |
Alice Lilley |
Alicja Zalesinska, Tai Pawb |
Alun Michael, South Wales Police and Crime Commissioner |
Amber-Ainsley Pritchard, Rewards Strategy |
Ami Willcox |
Amy Jolliffe |
Anais Laurent |
Andrew White, Stonewall Cymru |
Ann Courtney Sherwood, Y Bont |
Ann Williams, Live Fear Free Helpline |
Arfon Jones, North Wales Police and Crime Commissioner |
Auriol Miller |
Bethan Lewis |
Bethan Morgan |
Bethan Sayed, Assembly Member, Plaid Cymru |
Cara Carmichael Aitchison, Vice-Chancellor, Cardiff Metropolitan University |
Carl Foulkes, Chief Constable of North Wales Police |
Carolyn Harris MP, Swansea East |
Catherine Fookes, Women’s Equality Network (WEN) Wales |
Catherine Philips |
Cathy Elder |
Catrin Lloyd |
Charlie Arthur, Women’s Aid Rhondda Cynon Taff |
Cheyenne Mahoney |
Chisomo Phiri, NUS Wales |
Chris Moore Williams |
Chrissie Nicholls |
Christina Parker |
Crash Wigley |
Crisiant McEvoy |
Dafydd Llywelyn, Dyfed Powys Police and Crime Commissioner |
Daniel De’Ath, Cardiff Council |
Dawn Bowden, Welsh Labour Assembly Member |
Debbie Palmer |
Debbie Wilcox, Newport City Council |
Deborah Davies, Newport Council |
Delyth Jewell, Assembly Member, Plaid Cymru for South Wales East |
Dr Victoria Leonard |
Eleri Butler, Welsh Women’s Aid |
Emily Underwood-Lee, George Ewart Evans Centre for Storytelling |
Emma Harris |
Emma Renold, Professor of Childhood Studies, Cardiff University |
Ffion Thomas, Cardiff University |
Fflur Emlyn, RASASC North Wales |
Frances Beecher, Llamau |
Gemma Coleman |
Georgina Miles |
Gwendolyn Sterk |
Helen Jones, Atal y Fro |
Helen Twidle |
Helena Herklots CBE, Older People’s Commissioner for Wales |
Hilary Watson |
Huw Irranca Davies, Assembly Member |
Jane Henshaw, Labour, Cardiff Council |
Jane Ruthe, RASASC North Wales |
Jane Stephens, Montgomeryshire Family Crisis Centre |
Jeff Cuthbert, Gwent Police and Crime Commissioner |
Jemma Wray |
Jennie Henderson, Stepping Stones |
Jennie Rathbone, Assembly Member, Labour |
Jessica Taylor, Vice Chair |
Jo Todd, Respect |
Joanna Harris |
Joanne Hopkins, Adverse Childhood Experiences Hub |
Jocelyn Davies, Welsh Women’s Aid Ambassador |
John Griffiths, Assembly Member for Newport East |
John Puzey, Director, Shelter Cymru |
Joy Dyment, Trustee |
Joyce Watson, Assembly Member, Welsh Labour |
Julie Richards |
Karen Ling, Newport Women’s Aid |
Kate Jones, Thrive Women’s Aid |
Katie Dalton, Cymorth Cymru |
Katie Nash |
Laura Carter |
Leanne Wood, Assembly Member, Plaid Cymru |
Lindsay Birrell, CAHA Women’s Aid |
Liz Dominey, Soroptimist International of Great Britain and Ireland |
Llinos Price |
Lynda Thorne, Cardiff Council |
Lynne Neagle, Assembly Member, Welsh Labour |
Lynne Sanders, Swansea Women’s Aid |
Majella Kavanagh |
Margot Parker, East Midlands MEP |
Mark Collins, Chief Constable Dyfed Powys Police |
Mark Isherwood, Assembly Member, Conservative Party |
Michelle Pooley, West Wales Domestic Abuse Service |
Michelle Whelan, Calan Domestic Violence Service |
Mick Antoniw, Assembly Member, Welsh Labour |
Miriam Merkova |
Mirka Johanna Virtanen, The Green Party of England and Wales |
Morgan Fackrell, Cardiff Women’s Aid |
Mutale Merrill, BAWSO |
Mwenya Chimba |
Natalie Blakeborough |
Natasha Hirst |
Natasha Sullivan-Dungey |
Nick Capaldi, Arts Council of Wales |
Owen Jones, Labour Councillor for Splott |
Paul Davies, Leader of the Welsh Conservative Assembly |
Paula Hardy, South Wales Police |
Paula Walters, Chair of Welsh Women’s Aid Board of Trustees |
Peter Tangney |
Peter Wong |
Philip Walker, The Survivors Trust |
Rachel Eagles, CEO, Calan Domestic Violence Service |
Rachel Williams, Welsh Women’s Aid Ambassador |
Rebecca James |
Rhiannon Maniatt |
Rose Baxter |
Sally Holland, Children’s Commissioner for Wales |
Sara Kirkpatrick, Respect |
Sara Timothy |
Sarah Evans, Cadwyn Housing Association |
Sarah Ingham |
Sarah Merry, Cardiff Council |
Sarah Thomas, National Federation of Women’s Institutes Wales |
Shavanah Taj, TUC Wales |
Sian Gwenllian, Assembly Member, Plaid Cymru |
Sian Harries, Welsh Women’s Aid Ambassador |
Siwan Richards |
Sophie Howe, Future Generations Commissioner |
Stephen Hughes, North Wales Police and Crime Commissioner |
Sue Roberts, Stepping Stones North Wales |
Suzy Davies, Assembly Member, Welsh Conservative Party |
Tessa Marshall |
Tina Reece |
Vicky Lang |
Victoria Samuel |
Vikki Howells, Assembly Member, Welsh Labour |
Adroddiad ar gynnydd ymgyrch ‘Mae’r Amser ar Ben’ yng Nghymru hyd yn hyn:
Yn 2018, aeth Cymorth i Ferched Cymru ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth ‘Mae’r Amser ar Ben’ i wobrau BAFTA Cymru ac i Ŵyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd. Cawsom gyllid gan gronfa Cyfiawnder a Chydraddoldeb Time’s Up UK, a sefydlwyd o ganlyniad i Time’s Up byd-eang a’r mudiad #MeToo er mwyn darparu hyfforddiant a fydd yn cynyddu gwybodaeth a sgiliau gwasanaethau cymorth i fenywod ar draws Cymru i helpu menywod sydd wedi dioddef aflonyddu rhywiol a cham-drin.
Rydym hefyd wedi cyfarfod a chynnal digwyddiadau gyda gweithredwyr, gweithwyr proffesiynol ym myd diwydiant, y gyfraith ac addysg, undebau, a chynrychiolwyr myfyrwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o brofiadau menywod. Clywsom gan fenywod o amrywiol gefndiroedd a phrofiadau er mwyn adnabod y camau sydd angen eu cymryd yng Nghymru i ni ddod yn genedl lle gall menywod a merched fyw yn rhydd o aflonyddu, a lle gallant gael y cyfle i ffynnu o fewn cymdeithas ddiogel a chydradd.
Er mwyn cyflawni hyn, mae rhwydwaith ein hymgyrch ‘Mae’r Amser ar Ben’ wedi’n hysbysu bod angen:
- Ymroddiad gan gyflogwyr i ddefnyddio polisïau cadarn, gweithdrefnau atebolrwydd clir a hyfforddiant effeithiol ac i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol o fewn y gweithle
- Hyrwyddo hawliau merched, gan gynnwys sicrhau bod modd i bob menyw fanteisio ar ei hawliau cyfreithiol a sifil er mwyn herio aflonyddu rhywiol
- Gwasanaethau cymorth arbenigol ar draws Cymru a gyllidir yn gynaliadwy fel eu bod ar gael pryd bynnag a lle bynnag y bydd goroeswyr eu hangen
- Dull trawsgysylltiol wedi’i weu i wneuthuriad ein gweithredoedd, gan sicrhau ein bod yn datgelu ac yn dileu’r holl agweddau, ymddygiadau a systemau gwahaniaethol sy’n cynnal ac yn lluosogi anghydraddoldeb i bob menyw
[1] http://www.welshwomensaid.org.uk/2018/03/women-wales-press-progress/