Barn Cymorth i Ferched Cymru am ddatgelu tystiolaeth mewn adroddiadau am achosion troseddol
Mae Cymorth i Ferched Cymru, ochr yn ochr â Rape Crisis England and Wales ac End Violence Against Women coalition (EVAW), o’r farn bod y Pwyllgor wedi colli cyfle hollbwysig i ddwyn Gweinidogion y DU, Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr Heddlu a’r farnwriaeth i gyfrif am fethu â sicrhau cyfiawnder i oroeswyr treisio, trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol.
Rydym yn arbennig o bryderus bod yr heddlu ac erlynwyr yn ceisio darparu tystiolaeth ddigidol i’w defnyddio i ddangos hanes rhywiol unigolyn. Mae’n ymddangos nad yw Aelodau Seneddol wedi ystyried y pryderon difrifol hyn yn yr adroddiad.
Dywedodd Eleri Butler, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru:
“Mae’r adroddiad yma yn codi ofn a dweud y lleiaf, mae’n frawychus i glywed bod Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ‘heb adnabod maint a difrifoldeb eu methiannau’ ac i glywed yr amcangyfrifir bod 90% o achosion wedi’u hatal o ganlyniad i gamgymeriadau yn ymwneud â datgeliadau.
Mae datgeliad cywir o wybodaeth gan yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gwbl hanfodol ar gyfer prawf teg ac nid yw’n dderbyniol clywed na chafodd nifer o droseddwyr honedig eu galw i gyfrif. Gall hyn gael effaith hirdymor a difrifol ar ddioddefwyr a goroeswyr treisio, cam-drin rhywiol ac ymosodiad rhywiol.
Ar ben hynny, cytunwn â Rape Crisis England and Wales bod diffyg eglurder ynghylch beth yw ymholiadau rhesymol, ac a fydd hyn yn lleihau ymhellach ffydd dioddefwyr a goroeswyr yn y system cyfiawnder troseddol.
Croesawn y newid diwylliant tuag at wneud archwilio datgeliadau yn ddyletswydd graidd o fewn y system cyfiawnder a chytunwn bod angen technoleg gywir a digonol i adolygu’r swmp mawr o ddeunydd a gasglwyd gan yr heddlu.”
I ddarllen yr adroddiad llawn cliciwch yma os gwelwch yn dda, neu i ddarllen crynodeb o’r adroddiad clicwch yma os gwelwch yn dda.