Cymorth i Ferched Cymru yn uno gyda mudiadau merched yng Nghymru i groesawu ymgynhoriad Llywodraeth y DU ar ddiwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd
Cymorth i Ferched Cymru yn uno gyda mudiadau merched yng Nghymru i groesawu ymgynhoriad Llywodraeth y DU ar ddiwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd
Mae Cymorth i Ferched Cymru yn uno gyda mudiadau merched yng Nghymru i groesawu ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddiwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd:
“Mae Cymorth i Ferched Cymru yn sefyll yn unedig gyda mudiadau merched yng Nghymru – Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Chwarae Teg a Women Connect First – i gefnogi’r angen i ddiwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd, felly croesawn gyhoeddi’r ymgynghoriad heddiw.
Fel y corff trosfwaol yng Nghymru sy’n gweithio i atal trais yn erbyn menywod, rydyn ni’n cydnabod bod pob math o drais yn erbyn menywod yn rhannu nodweddion sy’n gysylltiedig â normau a disgwyliadau cymdeithasol o ran rhywedd. Mae’n hanfodol dymchwel stereoteipiau a normau rhywedd fel system o orthrwm sy’n hyrwyddo anghydraddoldeb merched os ydym am ennill tir yn y frwydr i atal trais yn erbyn menywod a sefydlu cydraddoldeb i fenywod a merched.
Mae’n hanfodol bod pob un sy’n goroesi camdriniaeth yn cael mynediad cydradd i ddiogelwch, amddiffyniad a chefnogaeth. Mae gwasanaethau i’r rheiny sydd wedi goroesi camdriniaeth yng Nghymru eisoes yn cefnogi mewnywod a dynion traws mewn llochesau a gwasanaethau cymunedol, ac maen nhw’n asesu pob un yn unigol er mwyn ymateb orau i’w hangenion, a hynny yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Rydyn ni hefyd yn croesawu cadarnhad cynharach Llywodraeth y DU nad oes unrhyw argymhellion i newid Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n galluogi mudiadau i barhau i ddarpau gwasanaethau un-rhyw lle bo angen ac sy’n atgyfnerthu’r angen parhaol am ddata datgrynhoi i fonitro gwahaniaethu ar sail rhyw a rhywedd.
Byddwn yn gweithio gyda’n chwaer fudiadau ac yn trafod gyda’n haelodau er mwyn ymateb i’r ymgynghoriad i sicrhau bod unrhyw brosesau newydd yn addas ac yn deg ac nad oes ganndynt unrhyw ganlyniadau anfwriadol.”
For a full copy of our joint response please see here: