Rydych chi wedi mewngofnodi. Allgofnodi
Angen help? Cliciwch yma neu ffonio 0808 80 10 800

Newyddion

08 Mawrth, 2018

Menywod yng Nghymru yn Pwyso am Gynnydd

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod 2018, rydym ni’n sefyll yn unedig fel menywod yng Nghymru sy’n actifyddion, ymgyrchwyr, eiriolwyr a goroeswyr i Bwyso am Gynnydd a dweud bod Amser ar Ben i gyflawnwyr pob math o drais, cam-drin a gwahaniaethu yn erbyn menywod. Rydym ni’n sefyll gyda’r rheini a lofnododd lythyrau actorion ac actifyddion a gododd eu llais y mis diwethaf i ddweud bod Amser ar Ben ar ddiwrnod Gwobrau Bafta yn Llundain.[1]

Dros y chwe mis diwethaf, mae miliynau o oroeswyr dewr sydd wedi dioddef aflonyddu rhywiol, ymosodiadau rhyw, treisio, trais domestig, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, yr hyn a elwir yn drais ar sail ‘anrhydedd’ a phob math o drais yn erbyn menywod, wedi codi eu lleisiau i ddweud #MeToo gan sefyll gyda’u chwiorydd ar draws y byd. Gellir olrhain gwreiddiau’r ymgyrch hwn i 1997, cyn i’r cyfryngau cymdeithasol lywodraethu ein bywydau, pan eisteddodd Tarana Burke gyferbyn â goroeswr trais rhywiol 13 oed a theimlo na allai ddweud ‘me too’, yna ddegawd yn ddiweddarach dechreuodd Burke “Me Too” fel mudiad ar lawr gwlad i helpu goroeswyr mewn cymunedau Du a lleiafrifol ethnig, gan amlygu pwysigrwydd dealltwriaeth groesadrannol o brofiadau menywod.[2]  

Mae #MeToo wedi taflu goleuni ar lefel endemig y profiadau hyn. Mae rhai o’r rhai sydd wedi codi llais yn ddynion ac rydym ni’n cydnabod eu profiadau ac yn galw am gefnogaeth I bob goroeswr. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif llethol yn fenywod. Mae hyn oherwydd bod aflonyddu rhywiol yn fath o drais yn erbyn menywod a chaiff ei brofi’n anghymesur gan fenywod a merched wrth law dynion a bechgyn, am ei fod yn ganlyniad o – ac yn achosi – anghydraddoldeb rhywedd. Mae ymddygiad y cyflawnwyr yn deillio o ymdeimlad o hawl sy’n cael ei gefnogi gan agweddau rhywiaethol, hiliol, gwrth-anabledd, homoffobig neu agweddau, ymddygiadau a systemau gwahaniaethol eraill sy’n cynnal ac yn atgynhyrchu anghydraddoldeb.

Mae 1 fenyw ym mhob 3 yng Nghymru’n profi trais corfforol neu rywiol ar ryw adeg yn eu bywyd.[3] Fe wyddom y gall menywod deimlo’n nerfus am siarad am eu profiadau, gan bryderu am yr ymateb y byddant yn ei gael.[4] Mae angen i ni sicrhau bod cymorth ar gael i fenywod i’w galluogi i deimlo y gallant siarad am eu profiadau, mewn amgylchedd diogel ac anfeirniadol.

Heddiw, rydym ni’n codi ein lleisiau cyfunol i ddweud hyn:

Mae Amser ar Ben i beidio â chydnabod, herio a chosbi ymddygiad cyflawnwyr.

Mae Amser ar Ben i fenywod a merched orfod byw gyda phrofiad dyddiol o aflonyddu, brawychu, trais a cham-drin drwy ein bywydau cyhoeddus a phreifat.

Mae Amser ar Ben i gyfnod pan nad yw goroeswyr trais yn erbyn menywod yn cael eu credu, yn cael eu beio fel dioddefwyr, yn cael eu holi beth oedden nhw’n ei wisgo a beth oedden nhw’n ei yfed.

Yn lle hynny gadewch i ni dynnu sylw at agweddau ac ymddygiadau sy’n caniatáu i drais yn erbyn menywod fodoli. Gadewch i ni bwyso ar ein Llywodraethau yng Nghymru a San Steffan i weithredu. Gadewch i ni bwyso ar ein busnesau, ein hysgolion, colegau a phrifysgolion i greu amgylcheddau ble gall menywod a merched ffynnu, breuddwydio’n uchelgeisiol a chyflawni eu potensial. Lle caiff trais yn erbyn menywod a merched ei ddileu unwaith am byth. Lle nad yw 64% o ferched mewn ysgolion yn profi aflonyddu rhywiol. [5] Lle nad yw 52% o fenywod yn cael eu cam-drin yn rhywiol yn y gweithle.[6] Lle mae delwedd y nenfwd gwydr yn ymddangos yn hynafol, yn hytrach na bod yn symbol o gyfyngiadau ym mywydau menywod a merched.

Nid yw trais a cham-drin yn erbyn menywod a merched yn anochel, gellir ei atal a gallwn weithio gyda’n gilydd i’w ddileu! Mae’n niweidio potensial ein cymdeithas i ffynnu ond gallwn weithredu. Rhaid i ni gael system addysg sy’n rhoi’r modd i’n plant a’n pobl ifanc gael perthnasoedd iach. Rhaid i ni greu cymunedau lle caiff aflonyddu, trais a cham-drin menywod a merched eu herio. Rhaid i ni orfodi dim goddefgarwch i aflonyddwch rhywiol yn ein sefydliadau addysg, gweithleoedd ac yn Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhaid i ni sicrhau bod gwasanaethau cymorth i oroeswyr yn cael eu cyllido’n gynaliadwy ar draws y wlad er mwyn i’r gwasanaethau gan y cyrff trydydd sector hyn sy’n achub bywydau fod yn hygyrch pan a ble mae eu hangen ar oroeswyr.

Gyda’n gilydd rydym ni’n Pwyso am Gynnydd, gan sefyll gyda mudiad Diwrnod Menywod Rhyngwladol ar draws y byd, gan gydnabod ein hamrywiaeth i alluogi cydraddoldeb i holl fenywod a merched Cymru, er mwyn i ni beidio â gorfod aros am gan mlynedd arall am gymdeithas lle gall menywod a merched fyw’n rhydd rhag gwreig-gasineb a chyflawni eu potensial heb y bygythiad o gael eu tawelu. Er mwyn i fenywod a merched fyw’n rhydd rhag trais a cham-drin, a ffynnu i fod yn aelodau iachus, uchelgeisiol a chyfartal o’r gymdeithas hon.

 

Llofnodwyr:

Adelle Kedge, Powys County Council

Ali Morris, Swansea Feminist Network

Alice Rogers

Alison Hamlington, Welsh Women’s Aid Wrexham

Ami Wilcox

Angharad Elen Blythe

Ann Williams, Welsh Women’s Aid (Live Fear Free Helpline)

Anna Grace Rogers

Anna Rogers

Auriol Miller

Awen Iorwerth

Bethan Lewis

Bethan Mai, Rogue Jones

Bethan Marlow

Branwen Cennard

Bronwen Burgess, Domestic Abuse One Stop Shop – Neath Port Talbot

Carole-Anne Davies

Caroline Bunce

Carys Eleri Evans

Catherine Fookes, Women’s Equality Network (WEN) Wales

Catherine Phillips

Cathy Owens, Deryn

Catrin Beard

Catrin Gerallt

Catrin Mara Eiry Thomas

Catrin Ms Davies

Catrin Roberts

Cerith Mathias, Wales Arts Review

Cerys Furlong, Chwarae Teg

Charlie Arthur, RCT Women’s Aid

Charlotte Lewis

Cheryl Waters Jones

Claire Cage

Claire Driffield

Claire Thomas, Welsh Women’s Aid Colwyn

Claudia Boes, Cardiff Sisters of Solidarity

Corrine John, University of South Wales

Danielle Dolby

Dawn Lynne Jones

Deborah Perkin

Diane Nicholson-Wright, Affinity Female Voice Choir

Diane Richards

Diane Williams

Donna C M Williams

Donna Lynne Davies

Dr Alison Parken

Dr Christina Papagiannouli, University of South Wales

Dr Helen Davies

Dr Sam Edwards

Dymphna Cronin

Eirian Griffiths, West Wales Domestic Abuse Service

Elena Blackmore, Women & Equalities Officer, Machynlleth Labour Party

Eleri Butler, Welsh Women’s Aid

Elinor Wyn Reynolds

Emily Underwood-Lee, University Of South Wales

Emma Harris

Ffion Dafis

Fflur Dafydd

FFlur Emlyn, RASASC

Gail Richards-Hemming, Port Talbot and Afan Womens Aid

Gauri Taylor-Nayar

Gwawr Loader

Gwendolyn Sterk, UK Expert on EWL Observatory on VAWG

Gwenno Penrhyn

Gwyneth Sweatman, NUS Wales

Hannah Daniel

Hazel Williams

Helen Jones, Atal Y Fro

Helen Rosser Davies

Helen Swain, Cyfannol Women’s Aid

Helen Twidle

Hilary Watson

Jane Gebbie, Unison

Jane Ruthe, RASASC

Jaqueline Pierce Owen

Jemma Wray

Jessica Blair

Jessica Taylor

Joanna Quinn

Joanne Payton

Joy Dyment

Julie Richards

Katie Dalton, Cymorth Cymru

Katie Lynch

Kay Lemon

Kayleigh Llewellyn

Kim Griffiths, Threshold DAS

Kiri Pritchard-Mclean

Laura Cotton

Laura Mcallister

Lauren Phillips

Lisa Cronin

Lisa Heledd Jones

Lisa Jên Brown

Lisa Roberts

Lizzie Stables

Llinor Ap Gwynedd

Lotte Reimer

Lucy Reynolds, Port Talbot and Afan Womens Aid

Lydia Parry Jones

Lynn Hunter

Lynne Sanders, Swansea Women’s Aid and Swansea Women’s Centre

Maggie Hussey

Maggie Simpson, Cardiff County Unison Labour

Manon Eames

Mared Swain

Marie Oakley

Melangell Dolma

Melissa Wood

Melony Whittle

Michelle Phillips, Soroptimist International Anglesey

Michelle Pooley, West Wales Domestic Abuse Service

Miriam Isaac Georgia Ruth

Morgan Fackrell, Cardiff Women’s Aid

Mwenya Chimba

Natalie Blakeborough

Natalie Holland

Natalie Poole, Newport Women’s Aid

Natasha Hirst

Natasha Sullivan-Dungey

Nerys Evans, Deryn

Nesta Lloyd Jones

Nia Caron

Nia Lynne Roberts

Nicola Mahoney, Safer Merthyr Tydfil

Nicola Sharp-Jeffs, Surviving Economic Abuse

Nikki Giant, Full Circle and Girls Circle

Pamela Barlow

Paula Hardy

Polly Pearshouse

Professor Amanda Robinson, Cardiff University

Professor Charlotte Williams OBE

Professor Emma Renold, Cardiff University

Rachael Eagles, Calan DVS

Rachael Nicholson-Wright, Action on Elder Abuse Cymru

Rachel Minto, Cardiff University

Rachel Williams

Rebecca Harris

Rebecca Haycock

Rebecca James

Rebecca Zerk, Aberystwyth University

Rhian Blythe

Rhian Bowen-Davies

Rhian Lewis

Rhian Rhys

Rhiannon Edwards

Rhiannon M Williams

Rhiannon Maniatt

Rhian Davies, Disability Wales

Ruth Marks, WCVA

Sarah Rees, Women’s Equality Party

Sarah Thomas, NFWI Wales

Sarah Wydall, Aberystwyth University

Sera Cracroft

Sharon Morgan

Shahien Taj OBE, Henna Foundation

Shavanah Taj, Welsh Secretary, Pcs Union

Sian Affonso

Sian Harries, Writer-Performer

Sian James

Siw Hughes

Sophie Hansen

Sophie Howe, Future Generations Commissioner

Sophie Millar

Stacie Bourke

Sue Roberts, Stepping Stones North Wales

Sue Roderick

Susan Roddick Owen

Susan Wood

Tania Russel Owen

Tiger Bay Brawlers

Tracy Spottiwoode

Tracey Sutton Postlethwaite

Uzo Iwobi, Race Council Cymru

Victoria Pedicini, Threshold DAS

Victoria Samuel

Yasmin Rehman

[1] https://www.theguardian.com/world/2018/feb/18/sisters-this-is-our-moment-to-say-times-up

[2] https://www.nytimes.com/2017/10/20/us/me-too-movement-tarana-burke.html

[3] http://fra.europa.eu/en/publication/2014/violence-against-women-eu-wide-survey-main-results-report

[4] http://www.welshwomensaid.org.uk/wp-content/uploads/2016/03/Are_you_listening_and_am_I_being_heard_FINAL_July_2016.pdf

[5] https://www.girlguiding.org.uk/globalassets/docs-and-resources/research-and-campaigns/girls-attitudes-survey-2017.pdf.

[6] https://www.tuc.org.uk/sites/default/files/SexualHarassmentreport2016.pdf.

Massive congrats to all the finalists- you all do sterling work supporting survivors- good luck for the final award ceremony #PIA19 twitter.com/cymorthcymru/s…

About 12 hours ago from WelshWomensAid's Twitter