Adroddiad Effaith Blynyddol
Cymorth i Ferched Cymru
2016/2017

Rhagair gan y Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol

Mae ein mudiad yng Nghymru yn pontio pedwar degawd o ddarparu gwasanaethau arbenigol sy’n cynnig cymorth yn ddyddiol i achub bywydau ac i drawsnewid bywydau y sawl sy’n goroesi camdriniaeth. Mae gwasanaethau arbenigol yn sefyll ochr yn ochr â goroeswyr er mwyn ateb eu hanghenion, eiriol dros eu hawliau, a darparu llais i’r rheini sydd ar gyrion cymdeithas neu sy’n wynebu anfanteision lluosog, er mwyn iddynt gael gafael mewn gwasanaethau neu help yn eu cymunedau lleol.

Mae’r adroddiad effaith blynyddol hwn yn seiliedig ar brofiadau nifer o oroeswyr sy’n gweithio gyda Chymorth i Ferched Cymru a’n haelodau ni. Rydym am gydnabod eu dewrder a’u gwytnwch, a sicrhau bod eu lleisiau nhw yn ganolog i’r holl waith rydym yn ei wneud. Rydym wedi cynnwys amrywiaeth o straeon er mwyn amlygu profiadau goroeswyr a dangos bod trais yn erbyn merched yn effeithio ar bob agwedd ar gymdeithas.

Os ydych chi, fel ni, yn ymrwymedig i sicrhau newid sy’n para ar gyfer goroeswyr, i greu cymdeithas sy’n gwrthod derbyn trais yn erbyn menywod a merched, a sicrhau byd lle gall menywod a merched wireddu eu llawn botensial, dewch i ymuno â’n mudiad yng Nghymru... parhad

Eleri Butler, Prif Swyddog Gweithredol
Charlie Arthur, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Cymorth i Ferched Cymru

Edrychwch drwy’r gymuned yn 2016/17 gan glicio ar y dotiau

Diolch yn fawr

Rhestr o aelodau