Women of Covid Campaign Apology

Welsh Women’s Aid would like to thank Women Connect First and all who have responded for taking the time to rightly point out this fundamental issue with the Women of Covid 19 list.

It is not the responsibility of women of colour to educate white women on racism and exclusion- this is entirely on us, we are sorry and we must do better. We need to ask ourselves how this happened and what steps we can take to ensure that this does not happen in the future

The goal of this campaign is to highlight the many women who have been responding in phenomenal ways to this crisis. A significant proportion of women on the frontline who have been providing aid and have given so much are women of colour. We should have ensured that a specialist BAME organisation was involved at the earliest stages of this campaign to advise on how to reach into the hearts of all communities and secure nominations that reflected the Covid 19 response more accurately. Chwarae Teg are still accepting nominations for the Women of Covid campaign, and the list should not have been publicised at the point at which it was.

We would like to unreservedly apologise. Welsh Women’s Aid is committed to confronting privilege in all its’ forms, challenging, disrupting and dismantling structural racism and prejudice. In doing so, we aim to amplify the diverse voices and experiences of survivors, including Black and minoritised women, disabled women, lesbians, trans women, migrant women, older and young women We were not active enough-as partners in this campaign or as allies- and we commit to doing better.

 

 

Hoffai Cymorth i Ferched Cymru ddiolch i Women Connect First ac i bawb sydd wedi ymateb am roi o’u hamser i dynnu sylw at y mater sylfaenol hwn gyda rhestr Menywod Covid 19.

 

Nid cyfrifoldeb menywod croenliw yw addysgu menywod gwynion ynghylch hiliaeth ac allgáu – ein cyfrifoldeb ni ydyw yn gyfan gwbl, mae’n ddrwg gennym ac mae’n rhaid inni wneud yn well.  Mae angen i ni ofyn i’n hunain sut y digwyddodd hyn a pha gamau y gallwn eu cymryd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd yn y dyfodol.

Nod yr ymgyrch hon yw tynnu sylw at y nifer fawr o fenywod sydd wedi bod yn ymateb mewn ffyrdd rhyfeddol i’r argyfwng. Mae cyfran sylweddol o fenywod ar y rheng flaen, sydd wedi bod yn darparu cymorth ac sydd wedi wedi rhoi cymaint, yn fenywod croenliw. Dylem fod wedi sicrhau bod sefydliad BAME arbenigol wedi cymryd rhan yng nghamau cynharaf yr ymgyrch hon er mwyn cynghori ar sut i gyrraedd calon pob cymuned a sicrhau enwebiadau a adlewrychai’r ymateb i Covid 19 yn fwy cywir. Mae Chwarae Teg yn dal i dderbyn enwebiadau ar gyfer ymgyrch Menywod Covid, ac ni ddylid bod wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r rhestr ar yr adeg y gwnaed.

Hoffem ymddiheuro’n ddiamod. Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â braint yn ei holl agweddau, gan herio, tarfu ar, a datgymalu hiliaeth a rhagfarn strwythurol.   Wrth wneud hynny, ein nod yw ymhelaethu ar leisiau a phrofiadau amrywiol goroeswyr, gan gynnwys menwyod duon a lleifarifol, menywod anabl, lesbiaid, menywod trawsrywiol, menywod mudol, menywod hŷn a menywod ifanc.  Nid oeddem yn ddigon gweithredol – fel partneriaid yn yr ymgyrch hon nac fel cynghreiriaid – ac ymrwymwn i wneud yn well.

 

Please see our joint campaign update below (please scroll for Cymraeg):

Women of Covid campaign update from Chwarae Teg and Welsh Women’s Aid

The Women of Covid campaign aims to highlight the contribution of women in leading the response to the Covid 19 crisis both on the frontline and within our communities.  Women of colour are amongst those most affected by Covid, and are over represented in the frontline jobs in health and care, and we accept that we got the campaign announcement badly wrong. Following our earlier apologies, we have now temporarily paused the campaign while we reach out and engage with people of colour to ensure that the action we take is appropriate.

We completely accept the criticism that we have received and we are determined to rectify that through our actions and not just our words.  We will learn from these mistakes and do better to ensure that the campaign is representative of the intersecting experiences of the diversity of women in Wales, that our organisations don’t make the same mistakes again, and that all women who are affected by Covid are fairly and equally represented.

 

Diweddariad ymgyrch Menywod Covid gan Chwarae Teg a Chymorth i Ferched Cymru

Nod ymgyrch Menywod Covid yw tynnu sylw at gyfraniad menywod wrth arwain yr ymateb i argyfwng Covid 19 ar y rheng flaen ac yn ein cymunedau.  Mae menywod croenliw ymhlith y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan Covid, ac maen nhw’n cael eu gorgynrychioli yn y swyddi rheng flaen ym maes iechyd, a derbyniwn inni gael cyhoeddiad yr ymgyrch yn anghywir iawn. Yn dilyn ein hymddiheuriadau cynharach, rydym bellach wedi oedi’r ymgyrch dros dro wrth i ni estyn allan ac ymgysylltu â phobl groenliw i sicrhau bod y camau a gymerwn yn briodol.

Yr ydym yn derbyn yn llwyr y feirniadaeth yr ydym wedi’i chael ac yr ydym yn benderfynol o unioni hynny drwy ein gweithredoedd ac nid drwy ein geiriau yn unig.  Byddwn yn dysgu o’r camgymeriadau hyn ac yn gwneud yn well i sicrhau bod yr ymgyrch yn gynrychioliadol o brofiadau croestoriadol amrywiaeth menywod yng Nghymru, nad yw ein sefydliadau yn gwneud yr un camgymeriadau eto, a bod pob merch y mae Covid yn effeithio arni yn cael ei chynrychioli’n deg ac yn gyfartal.