Latest News

  • WWA statement on Chief Constable Carmel Napier’s retirement

    WWA were surprised to hear the announcement of Chief Constable Carmel Napier’s unexpected retirement from Gwent Police announced in the papers yesterday (5th June).

    Over the past 2 years in particular WWA has worked closely with Ms Napier in relation to improving Police responses to domestic abuse and other forms of male violence against women, primarily in Gwent and more widely across the UK as the  former ACPO lead on Domestic Abuse, Honour based violence and stalking.

  • Welsh Women’s Aid has launched a NEW ‘CutsWatch’ online survey

    The purpose of this survey will be to monitor the extent, nature and impact of public spending cuts on violence against women support services in Wales. 

  • Welsh Women's Aid supports campaign to Ban Rape Porn

    WWA has signed up to support the Rape Crisis campaign to Ban Rape Porn in light of the use of sexually violent pornography in a number of rape cases, including the conviction of Mark Bridger for the murder of April Jones. The Children’s Commissioner of England has also published a report showing that there is a clear link between boys watching porn, and harmful attitudes and behaviours towards women and girls.

    -    Read Rape Crisis South London’s briefing, ‘Closing the Loophole on Rape Pornography’.

    -    Download the Children’s Commissioner report, ‘Basically, Porn is Everywhere’.

    To tweet your support please use the hashtag #banrapeporn

  • Take Action to Save Legal Aid

    Further devastating cuts proposed; new consultation open

    On the 9th April the Ministry of Justice published Transforming legal aid: delivering a more credible and efficient system. 
    The consultation closes on 4th June 2013 and proposes (amongst other things)
    a radical restructuring of legal aid in criminal cases, including removing the right to choose a solicitor, a residence test for all civil legal aid claimants, ‘reforms’ to reduce the use of legal aid to fund certain judicial reviews,  ‘reforms’ to the merits test, and further changes to remuneration (payment) for providers and experts. 


    You can read the consultation 
    here 

    Rights of Women have compiled a template response for organisations and individuals who wish to respond to the consultation

  • Police cautions overused to hit targets, says Dyfed-Powys PCC

    A police and crime commissioner has pledged to end his officers' culture of issuing cautions for serious offences.

    Dyfed-Powys Police were more likely to give cautions than any other force in Wales or England, with 45% of serious offenders being warned not prosecuted.

See All News

Contrary to theories of domestic violence that portray battered women as helpless, most women surviving in abusive relationships leave many times and routinely act in conscious ways to try to minimize the abuse directed at them and to protect their children.

 

Research shows that women are victims in 95% of domestic violence cases. To the extent women do use violence, it is generally in self-defense. Reports of violence against men are often exaggerated because abusers will accuse their partners of using violence as a way to avoid or minimize their own responsibility. In addition, men who do experience domestic violence have more access to resources to leave violent situations than do women.

 

Myth a Realiti

Mae llawer o bethau mae pobl yn eu dweud am gam-drin yn y cartref yn anghywir. Mae mythau’n esgus da i bobl sy’n cam-drin beidio â chymryd cyfrifoldeb dros eu hymddygiad. Does dim esgus dros gam-drin yn y cartref... ...

"Fe ddigwyddodd unwaith yn unig, mae’n ddrwg iawn ganddo ac ni fydd yn digwydd eto"

Pan fydd dyn yn dechrau cam-drin mae yn debygol o ddigwydd eto. Prin fod cam-drin yn un digwyddiad ar ei ben ei hun. Fel arfer mae’n rhan o batrwm o ymddygiad rheolaethol sy’n gwaethygu gydag amser.

Ymddygiad rheolaethol yw pethau fel dweud wrth berson beth i’w wisgo, pwy i’w gweld, bod yn feddiannol ac yn genfigennus iawn, a thanseilio hunanhyder a hunan-barch person arall yn barhaol. Mae’r rheolwr yn defnyddio trais neu’n bygwth trais i gael ei ffordd ei hun.

Mae dynion yn aml yn dweud ei fod yn flin ganddynt ar ôl digwyddiadau o gam-drin, maen nhw’n addo ac yn dweud na fyddant yn ei wneud eto. Yn aml, mae menywod sydd wedi gadael y cartref yn dychwelyd i bartneriaid sy’n cam-drin o ganlyniad i’r addewidion hyn. Efallai bydd cyfnod pan ymddengys nad yw’r dyn yn cam-drin trwy fod yn ymorol, yn ddymunol ac yn gymwynasgar. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n cam-drin yn cam-drin eto, a bydd y cyfnod hwn o fod yn neis yn newid yn sydyn i’r hen batrwm o ymddygiad rheolaethol.

"Mae pobl yn cam-drin eu partneriaid o ganlyniad i ddiweithdra, cyffuriau, alcohol, profiadau plentyndod ayyb"

Mae cam-drin yn y cartref yn digwydd beth bynnag fo’ch incwm, ffordd o fyw, rhyw, hil, dosbarth, oedran, crefydd, rhywioldeb a gallu meddyliol neu gorfforol. Nid yw ffactorau megis diweithdra, alcohol a dibyniaeth ar gyffuriau ac ati yn achosi cam-drin yn y cartref ond yn cyfrannu at gythruddo’r cam-drin.

Does dim esgus dros drais a cham-drin yn y cartref.

"Mae cam-drin yn y cartref yn digwydd mewn cymunedau penodol yn unig; fel arfer mewn teuluoedd dosbarth gweithiol, Asiaidd neu ddu ac mae’r rhan fwyaf o gam-drin yn y cartref yn digwydd ar stadau cyngor."

Mae cam-drin yn y cartref yn digwydd o fewn pob cymuned: pob dosbarth, hil a diwylliant. Nid yw’n fwy cyffredin mewn un gymuned na’r llall.

Does dim person nodweddiadol sy’n cam-drin a does dim menyw nodweddiadol sy’n cael ei cham-drin. Gall cam-drin yn y cartref effeithio ar unrhyw un.

Mae Cymorth i Fenywod wedi cefnogi menywod lle’r oedd eu partneriaid yn adeiladwyr, yn weithwyr cymdeithasol, yn gyfreithwyr, yn athrawon, yn seiciatryddion, yn wleidyddion, yn yrwyr bws, yn blymwyr, yn y lluoedd arfog, yn drydanwyr, yn beirianwyr, yn weithwyr ffatri, yn feddygon, yn heddweision, yn weision sifil....ystod eang o swyddi.

Does gan y rhan fwyaf o fenywod a ddaw i Gymorth i Fenywod ddim problemau eraill yn eu bywydau ar wahân i’r rhai a achosir gan drais a cham-drin eu partner.

"Dim trais yw hwn, dim ond dadlau."

Yn aml, mae trais mynych yn mynd law yn llaw â cham-drin emosiynol a bygythiadau. Er bod rhai menywod efallai’n ceisio amddiffyn eu hunain drwy wrthsefyll yn gorfforol yn ystod ymosodiad, ni ddylid ystyried bod hyn yn golygu fod y trais mae’n ei brofi’n "ymladd ar y ddwy ochr".

"Ni all ddynion treisgar reoli eu hunain, rhaid eu bod yn sâl yn feddyliol."

Mae’r rhan fwyaf o ddynion treisgar ac ymosodol yn gallu rheoli eu hunain i beidio â tharo na cham-drin eu partneriaid yn gyhoeddus neu o flaen eraill nac achosi anafiadau mewn mannau y gellir eu gweld.

Mae’r rhan fwyaf o ddynion treisgar yn cam-drin eu partneriaid a’u plant ond neb arall.

Mae’r rhan fwyaf o ddynion sy’n cam-drin yn gallu gweithredu heb drais mewn cymdeithas, yn y gweithle ac mewn cyswllt ag eraill.

Rydym oll yn gyfrifol dros ein hymddygiad ein hunain. I lawer o bobl, mae’n haws credu’r myth fod pobl sy’n cam-drin yn sâl yn feddyliol yn hytrach na derbyn eu bod yn gwybod yn union yr hyn maen nhw’n ei wneud pan fyddant yn cam-drin, treisio neu arteithio eu partneriaid neu eu plant. Mae pobl sy’n cam-drin yn gyfrifol am eu gweithredoedd eu hunain ac mae ymddwyn mewn ffyrdd ymosodol neu droi at drais yn fwriadol.

"Mae menywod yn dewis y math yma o ddyn"

Nid yw menywod yn ymwybodol os yw dyn yn dreisgar neu beidio wrth ddechrau cyfeillachu ag ef, does dim arwyddion. Mae profiadau’r rhan fwyaf o fenywod yn dangos bod dynion, ar ddechrau perthynas, yn ymorol, yn gariadus ac yn ofalgar iawn.

"Dim ond ambell i ffrae fach deuluol ydyw, mae pawb yn dadlau."

Y gwahaniaeth rhwng dadlau achlysurol a cham-drin yn y cartref yw bod cam-drin yn y cartref yn ymddygiad bwriadol a ddefnyddir gan y person sy’n cam-drin i reoli a dominyddu’r person arall.

Defnyddir ystod o ymddygiadau rheolaethol  gwahanol mewn perthnasau ymosodol. Maen nhw’n cynnwys amddifadu rhywun o gwsg, beirniadu eu golwg, dweud wrthyn nhw beth i’w wisgo neu ble i fynd, rheoli gyda phwy maen nhw’n gyfeillgar neu wrthod gadael iddynt gysylltu â’u teulu, eu rhoi dan glo, eu bygwth gyda thrais, eu taro, eu treisio’n rhywiol neu eu harteithio.

"Mae menywod yn cael mwynhad, pleser neu foddhad o’u profiadau cam-drin yn y cartref"

Mae profiadau menywod yn dangos nad yw hyn yn wir o gwbl. Mae cam-drin yn y cartref yn codi ofn arnynt ac yn cymryd rheolaeth oddi wrth fenywod. Does neb am fyw mewn ofn.

"Mae’n rhaid ei bod yn cael rhywbeth ohono, neu byddai wedi gadael."

Mae llawer o resymau pam fod menyw’n aros mewn perthynas dreisgar ond does dim un ohonynt yn ymwneud â chael rhywbeth o’r trais a’r ymosodiadau.

Yn aml, mae menyw yn rhy ofnus i adael, efallai bod ei phartner wedi bygwth ei lladd hi, y plant neu’r anifeiliaid anwes. Efallai ei fod hyd yn oed wedi bygwth lladd ei hun os bydd hi’n ei adael. Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o lofruddiaethau yn y cartref yn digwydd yn ystod y cyfnod gadael neu ar ôl gadael a phan fydd menyw mewn perthynas arall.

Efallai bod y fenyw’n poeni am symud ei phlant neu’n gorfod eu gadael neu y byddant yn mynd i gartrefi gofal os daw pobl i wybod am y cam-drin.

Mae llawer o fenywod yn rhoi’r bai arnyn nhw eu hunain am y cam-drin gan feddwl mai arnyn nhw mae’r bai. Efallai nad yw’r hyder ganddynt i adael neu efallai eu bod yn teimlo cywilydd neu’n euog am adael i’r person eu cam-drin nhw a’u plant.

Mae llawer o fenywod yn dal i beidio â bod yn ymwybodol o’r help a’r gefnogaeth sydd ar gael gan asiantaethau megis Cymorth i Fenywod a’r Heddlu.

Yn aml bydd pobl sy’n cam-drin yn cadw arian o’u partneriaid ac felly bydd dim arian gan y fenyw i ddianc.

Efallai bod y camdriniwr wedi atal cyswllt gyda theulu a ffrindiau’r fenyw felly mewn argyfwng, nid yw’n teimlo bod ganddi unman i’w droi.

Mae cam-drin emosiynol yn aml yn achosi i fenyw deimlo’n wan, efallai ei bod yn teimlo nad yw’n ddigon cryf i adael, a /neu’n ddigon cryf i oroesi ar ei phen ei hun ar ôl gadael. Efallai ei bod yn poeni am ddod o hyd i rywle i fyw neu gael arian i fyw.

Yn aml, bydd cam-drin emosiynol yn achosi i fenyw deimlo’n ddi-werth, efallai ei bod yn credu’r celwyddau mae’r person sy’n ei cham-drin wedi’u dweud wrthi ac yn credu na fydd unrhyw un arall yn ei hoffi nac yn deall na chredu ei bod yn cael ei cham-drin.

Mae llawer o fenywod yn dal i fod ynghlwm yn emosiynol wrth eu partneriaid er gwaetha’r cam-drin. Nid yw hyn yn golygu eu bod yn mwynhau’r trais ond efallai eu bod yn credu y bydd eu partner yn newid neu eu bod yn gallu atal y trais a bydd y berthynas yn llwyddo.

Nid oes llawer o fenywod yn sylweddoli mor gyffredin yw trais a cham-drin yn y cartref, maen nhw’n credu mai nhw yw’r unig un sy’n eu dioddef.

Mae rhai neu bob un o’r rhesymau hyn yn arwain at lawer o fenywod yn credu nad oes modd dianc rhag y berthynas dreisgar ac y byddai’n well iddynt aros gyda’u partner a dioddef y digwyddiadau o gam-drin yn y cartref. Mae menywod yn ymdopi drwy ddod o hyd i ffyrdd o dawelu eu partneriaid treisgar drwy fod yn arbennig o sensitif i’w hwyliau ymddygiad ef. Mae hyn yn helpu i leihau’r trais ond nid yw’n para’n hir achos bydd y person sy’n cam-drin bob amser yn dod o hyd i rywbeth sy’n ei ‘gythruddo’ er mwyn iddo gyfiawnhau’r cam-drin a’r trais yn erbyn y fenyw neu ei blant.

Efallai bod rhai menywod yn ofalwyr dros aelod hen neu anabl o’r teulu (er enghraifft menywod Asiaidd sy’n gofalu am rieni hŷn mewn rhwydwaith teulu estynedig). Byddai dianc y trais yn golygu gadael pobl sy’n dibynnu arnynt i ofalu amdanynt eu hunain ac efallai’r risg o drais gan y partner.

Os ydych chi’n dioddef cam-drin yn y cartref ac mae angen help a gwybodaeth arnoch ynghylch eich opsiynau, cysylltwch â grŵp Cymorth i Fenywod nawr.

"Ni ddylem ymyrryd, mater preifat ydyw."

Nid yw cam-drin unigolyn yn fater preifat. Mae 25% o’r troseddau treisgar yr adroddir amdanynt yn ddigwyddiadau cam-drin yn y cartref. Ni adroddir am y rhan fwyaf o ddigwyddiadau cam-drin yn y cartref.

Mae cam-drin yn y cartref yn drosedd, ni allwn barhau i’w anwybyddu.

"Nid yw’n cael ei cham-drin go iawn, mae’n ei ddefnyddio fel esgus i symud cartref."

Mae menywod fel arfer yn lleihau effaith eu profiadau o drais a cham-drin yn hytrach na’u gorliwio.

Nid oes llawer o fenywod yn cael eu symud i gartref arall yn gyflym. Mae’n bosib y bydd yn rhaid iddynt dreulio misoedd mewn lloches neu lety gwely a brecwast cyn iddynt gael rhywle i fyw.

"Mae’n rhaid bod pobl sy’n dreisgar tuag at eu partneriaid yn dod o deuluoedd treisgar."

Mae llawer o bobl sy’n dreisgar tuag at eu partneriaid yn dod o deuluoedd lle nad oes unrhyw hanes o drais. Mae gan lawer o bobl sy’n cam-drin frodyr a chwiorydd nad ydynt yn dreisgar nac yn cam-drin.  Does dim person nodweddiadol sy’n cam-drin.

O fewn llawer o deuluoedd lle cafwyd trais, mae unigolion yn dewis peidio â bod yn dreisgar.

"Dim dynion yn unig sy’n dreisgar, mae llwyth o fenywod treisgar hefyd"

Dengys ystadegau bod 97% o’r digwyddiadau cam-drin a thrais yn y cartref a adroddir amdanynt yn cael eu cyflawni gan ddynion yn erbyn menywod.

Fodd bynnag, gall cam-drin yn y cartref ddigwydd mewn perthynas o’r un rhyw a gall aelodau o’r teulu estynedig ei gyflawni. Mewn nifer bach iawn o achosion (3%) y bobl sy’n cyflawni’r cam-drin hwn yw menywod.

Cred Cymorth i Fenywod Cymru bod cam-drin yn y cartref yn digwydd o ganlyniad i anghydraddoldeb parhaus rhwng dynion a menywod mewn cymdeithas. Felly, mae cymdeithas yn dueddol o gydoddef gweithredoedd ymosodol gan ddynion yn y tymor hir a chaiff bechgyn eu magu i dybio rheolaeth dros fenywod ym mhob maes gwaith, yn y cartref ac mewn perthnasau.