Cam-drin Ariannol |
|
Mae cam-drin ariannol yn digwydd rhwng dau oedolyn lle ceir cyd-ddibyniaeth ariannol. Ceir llawer o ffurfiau o gam-drin ariannol, o wrthod rhoi mynediad at arian i roi’r holl gyfrifoldeb ariannol arnoch chi tra ei fod ef yn anghyfrifol gydag arian. Mae’r camdriniwr yn defnyddio arian i reoli’r dioddefwr ymhellach, gan naill ai sicrhau ei dibyniaeth ariannol arno ef neu drwy roi’r cyfrifoldeb o gadw to uwch ben y teulu i’r dioddefwr ac amau eich gallu i wneud hynny neu eich rhwystro ar yr un pryd.
Gall cam-drin ariannol gynnwys: · eich atal rhag cael neu gadw swydd · gwrthod rhoi digon o arian i chi i gadw’r tŷ · eich gorfodi i gyfrif am bob ceiniog a wariwyd · gwrthod rhoi mynediad at lyfr sieciau/cyfrif/arian · rhoi pob bil yn eich enw chi · bygwth eich gorfodi o’r tŷ gan eich gwneud yn ddigartref ac yn anghenus · cadw gwybodaeth oddi wrthych am fudd-daliadau lles · mynnu cael eich sieciau cyflog · gwario’r arian a neilltuwyd ar gyfer biliau/bwyd arno ef ei hun · eich gorfodi i gardota neu gyflawni troseddau am arian · gwario Budd-dâl Plant arno ef ei hun · eich rhwystro rhag gwario arian sydd ar gael arnoch chi eich hun neu’r plant · eich gorfodi i ildio eich cynilion · bod ef ei hun ddim yn gweithio ond yn eich gorfodi chi i weithio er mwyn talu am bopeth Gall cam-drin ariannol gael effaith ddifrifol a thymor hir ar fenywod a phlant sy’n ei ddioddef. Gall menywod a phlant fod yn gaeth i gylch o dlodi, gallant ddioddef o salwch corfforol a seicolegol, unigedd a theimlo nad ydynt yn gallu dianc rhag y berthynas gamdriniol. I gael rhagor o wybodaeth am gam-drin ariannol, ewch i wefan YWCA Cewch lawrlwytho taflen y Swyddfa Gartref ‘Domestic violence – financial control, emotional abuse’ (taflen) neu ewch i wefan y Swyddfa Gartref Os ydych yn dioddef cam-drin ariannol, neu gam-drin domestig o unrhyw fath, cysylltwch â Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru ar 0808 80 10 800. |

