Cam-drin Seicolegol / Emosiynol |
|
Mae cam-drin Emosiynol a Seicolegol yn cynnwys mathau gwahanol o ymddygiad rheoli nad yw’n gorfforol sy’n achosi niwed emosiynol ac yn bychanu unigolyn. Mae cam-drin Emosiynol a Seicolegol yn cynnwys: · Dweud wrth rywun eu bod yn ddi-werth, · Dweud wrthyn nhw does neb arall sydd eu heisiau, · Gorfodi rhywun i wneud pethau ar amser penodol neu mewn ffordd benodol, · Tanseilio gweithredoedd, barn a chredoau unigolyn, · Dweud wrth rywun ei fod yn wan ac na fyddai’n gallu ymdopi ar ei ben ei hun, · Gwneud i rywun feddwl eu bod yn wallgof, · Dweud wrth rywun mai nhw sydd ar fai am y trais a’r cam-drin domestig, · Peidio â gadael i rywun gael ymwelwyr, · Rheoli pwy sydd yn ffrindiau iddynt, · Peidio â gadael i unigolyn fynd allan, · Peidio â gadael i unigolyn weld teulu na ffrindiau, · Peidio â gadael i unigolyn fod ar ei ben ei hun gydag eraill, · Peidio â gadael i unigolyn ddefnyddio’r ffôn, anfon llythyrau neu e-bostio, · Cloi rhywun mewn ystafell neu dŷ, · Peidio â gadael i unigolyn fynd allan i weithio, peidio â gadael i unigolyn fynd i’r coleg neu ddosbarthiadau nos, · Mynd gyda rhywun i bob man er mwyn rheoli’r hyn maen nhw’n ei wneud, pwy maen nhw’n ei weld a beth maen nhw’n ei ddweud, · Dweud wrth rywun eu bod yn rhiant gwael, · Cael plant i ddweud a gwneud pethau i greu gofid i rywun, · Annog plant i gymryd rhan yn y cam-drin, · Cam-drin plant neu anifeiliaid anwes rhywun, · Difrodi eiddo, · Cyhuddo rhywun o ddweud celwydd pan nad ydynt yn gwneud hynny, · Dweud wrth rywun eu bod yn dew, yn hyll ac yn ddiwerth, · Gwneud i rywun feddwl does neb arall yn eu hoffi, · Bygwth niweidio rhywun, neu niweidio eu plant neu eu hanifeiliaid anwes, · Bygwth anfon rhywun i’r ysbyty gan eu bod yn wallgof, · Bygwth alltudio rhywun neu beidio â rhoi gofal os yw rhywun yn hen, yn sâl neu’n anabl, · Dweud wrth rywun os ydynt yn gadael, bydd y camdriniwr yn dod o hyd iddyn nhw ac yn eu lladd · Bygwth cam-drin rhywun o flaen eu plant, eu teulu neu eu ffrindiau. Yn aml, mae’n anodd adnabod cam-drin emosiynol. Fe all ddigwydd mewn ffordd gyfrwys iawn nad yw’n amlwg i ffrindiau neu deulu unigolyn. Gallai’r unigolyn sy’n cael ei gam-drin feddwl neu deimlo nad yw’r cam-drin yn digwydd hyd yn oed. Gall cam-drin emosiynol effeithio ar fenywod a phlant sy’n ei ddioddef mewn llawer o ffyrdd. Fe all adael creithiau seicolegol dwfn ac achosi niwed difrifol i hunanhyder yr unigolyn sy’n dioddef y cam-drin. Os ydych yn dioddef cam-drin emosiynol/seicolegol, neu gam-drin domestig o unrhyw fath, cysylltwch â Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru ar 0808 80 10 800.
Mae ymchwil yn awgrymu y gallai achosion o gam-drin anifeiliaid, mewn rhai amgylchiadau, gael eu defnyddio i orfodi, rheoli a dychryn menywod a phlant i aros yn eu sefyllfa gamdriniol neu gadw’n dawel amdani. Gall bygwth cam-drin anifail anwes neu ei gam-drin yn wirioneddol atal menywod rhag gadael sefyllfaoedd o gam-drin domestig. Caiff llawer o fenywod a phlant eu gorfodi i aros gyda’u partneriaid treisgar gan eu bod yn teimlo na allant adael eu hanifeiliaid anwes – ac mewn rhai achosion, mae dynion treisgar hefyd yn dreisgar tuag at anifeiliaid y teulu. Dengys ymchwil bod cysylltiad rhwng cam-drin anifeiliaid a thrais domestig: gallai dynion sy’n dreisgar tuag at fenywod fygwth niweidio anifail annwyl neu ei ladd er mwyn dychryn eu partner, ac felly cadw rheolaeth a phŵer drostynt. Ystadegau Yn ôl y sefydliad Paws for Kids, nododd 46% o fenywod bod eu partneriaid wedi bygwth niweidio eu hanifeiliaid anwes, a nododd 29% bod eu partneriaid wedi niweidio eu hanifeiliaid anwes. Roedd gan 81% o’r menywod a holwyd blant ac roedd 41% o’r plant yn y teuluoedd yma wedi gweld bygythiadau neu drais gwirioneddol tuag at eu hanifeiliaid anwes annwyl. Yn ôl adroddiad Ystadegau Pedwaredd Flwyddyn Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru, hysbyswyd am 137 achos o’r troseddwr yn bod yn dreisgar tuag at y plant, a 27 achos o fod yn dreisgar tuag at anifeiliaid anwes. Mae astudiaeth gan Ffederasiwn Cymorth i Ferched Lloegr hefyd yn awgrymu bod pobl sy’n cyflawni cam-drin domestig yn y DU yn defnyddio cam-drin anifeiliaid anwes i geisio rheoli a gorfodi eu partneriaid neu gynbartneriaid a’u plant, gan nodi bod pobl sy’n galw’r Llinell Gymorth Genedlaethol yn dweud bod 9 anifail anwes yr wythnos, ar gyfartaledd, yn cael eu cam-drin neu wedi cael eu cam-drin gan droseddwr. Pam mae Troseddwyr yn bygwth anifeiliaid anwes? Yn ôl Paws for Kids: · Bydd troseddwr yn defnyddio beth bynnag sydd yn y cartref i gadw ei bŵer a’i reolaeth dros ei bartner a’r plant. · Trwy niweidio anifail anwes, mae troseddwr yn pwysleisio ymdeimlad o fraw yn ei bartner a’r plant. Efallai na fydd rhaid i droseddwr wneud unrhyw beth arall i ddangos pŵer. · Trwy ladd anifail anwes, gallai troseddwr fod yn dinistrio unig gysur a chefnogaeth y fenyw neu’r plant drwy roi diwedd ar gariad diamod anifail anwes, a bydd hyn yn sicr o ychwanegu at eu teimladau o unigedd ac anobaith. · Os gadewir anifail anwes yn y cartref pan fydd menyw a’i phlant yn mynd i loches, gallai dyn benderfynu niweidio’r anifail er mwyn ychwanegu at y pryder os nad yw hi yno, dyw ei hanifeiliaid ddim yn ddiogel. · Trwy fygwth niweidio anifail anwes annwyl, gallai’r sawl sy’n cam-drin brynu tawelwch plentyn. I nifer o fenywod a phlant sy’n gadael perthnynas dreisgar, does dim llawer o ddewisiadau ar gael iddynt o ran eu hanifeiliaid anwes. Mae’r gwasanaethau isod yn sicrhau y bydd gofalwr maeth gwirfoddol yn gofalu am yr anifeiliaid nes bydd y perchennog yn gallu eu cymryd yn ôl. Mae’r holl leoliadau yn gwbl gyfrinachol. Mae byw gyda cham-drin domestig yn anodd, ond gallai fod yn anoddach fyth os oes gennych chi anifail anwes annwyl. Nid yw’r rhan fwyaf o lochesau’n derbyn anifeiliaid, ac felly gallai’r RSPCA eich helpu chi, eich teulu a’ch anifail. Gallai gwasanaeth PetRetreat yr RSPCA drefnu i ofalwyr maeth ofalu am eich anifail anwes os ydych yn dianc rhag cam-drin domestig. Caiff eich anifail anwes gartref da nes i chi ymgartrefu a bod yn barod i ofalu amdano eto. Os oes gennych chi anifail anwes ac yn teimlo’n barod i adael eich cartref a mynd i loches, neu os ydych chi mewn lloches ac wedi gadael eich anifail anwes yn y cartref, cysylltwch â gwasanaeth PetRetreat yr RSPCA.
Gwasanaethau eraill a allai fod o gymorth: Gogledd Cymru Sefydliad Buster Sir Gaer a Gogledd Lloegr 0120 469 8999 (PAWS for kids) Caerfyrddin 01554 750 100 (Cartref Cŵn Llanelli) 01267 253847 (Paws and Claws - Bronwydd, Caerfyrddin) 01570 470 589 (Tŷ Agored, Cribyn, Llanbedr Pont Steffan) 01550 740 661 (Achub Anifeiliaid, Llandeust) 01267 237 958 (Damweiniau Anifeiliaid, Argyfyngau yn unig, 4 Clos Morgan, Caerfyrddin) Colwyn 01492 870 212 (Anifeiliaid a Adawyd) 01492 532 780 (RSPCA) 01492 532 346 (Achub Anifeiliaid) Bydd gan eich grŵp Cymorth i Ferched lleol ragor o wybodaeth am y cynlluniau maeth ar gyfer anifeiliaid anwes sydd ar gael yn eich ardal. I gysylltu â’ch grŵp Cymorth i Ferched lleol, ewch i dudalennau Cymorth i Ferched Cymru |

