Beth yw Camdriniaeth yn y Cartref? |
|
Mae Cymorth i Ferched Cymru yn diffinio Cam-drin yn y Cartref fel bygwth neu wir cam-drin rhywun yn gorfforol, yn emosiynol, yn seicolegol, yn rhywiol neu’n ariannol gan bartner, aelod o’r teulu neu berson mewn perthynas agos â nhw, neu a oedd mewn perthynas agos â nhw. Yn y bôn mae cam-drin yn y cartref yn cynnwys un person yn camddefnyddio pŵer ac yn defnyddio rheolaeth dros berson arall lle mae, neu y cafwyd perthynas agos. Dengys ystadegau bod 97% o ddigwyddiadau cam-drin yn y cartref yr adroddir amdanynt yn cael eu cyflawni gan ddynion yn erbyn menywod. Fodd bynnag, mae Cymorth i Ferched Cymru yn cydnabod y gall cam-drin yn y cartref ddigwydd o fewn perthynas o’r un rhyw ac mewn ychydig iawn o achosion, menywod sy’n cyflawni’r gamdriniaeth. Ceir llawer o ffurfiau gwahanol o gam-drin yn y cartref ond yn bennaf ceir 4 categori cyffredinol. Dyma nhw: Am ragor o wybodaeth ar bob math o gam-drin, cliciwch ar y penawdau uchod – neu ewch i wefan Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan drwy glicio yma |

