Os ydych chi’n rhiant sy’n poeni

 

Os ydych chi’n rhiant sy’n poeni am blentyn neu berson ifanc a allai fod yn profi cam-drin domestig neu mewn perygl o niwed, dylech gysylltu â’r heddlu a chael cyngor cyfreithiol brys drwy ffonio 999.

I gael cyngor, gwybodaeth a chymorth, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn – gwasanaeth 24/7 am ddim sy’n cefnogi pawb, p’un a ydych yn cael eich cam-drin eich hun neu’n poeni am rywun rydych chi’n ei adnabod, gall y llinell gymorth wrando ar eich pryderon a chyfeirio os oes angen.

 

Mae cred gyffredin y bydd Gwasanaethau Plant (gweithwyr cymdeithasol) yn gosod plant mewn gofal yn awtomatig os ydyn nhw’n dod o gartref lle mae cam-drin domestig yn digwydd. Mae hyn yn ddigwyddiad prin iawn. Mae gan y Gwasanaethau Plant, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill ganllawiau cenedlaethol ar eu dyletswydd i gymryd gofal arbennig i helpu i ddiogelu a hyrwyddo lles y plant a’r bobl ifanc a allai fod yn byw mewn amgylchiadau o straen arbennig, sy’n cynnwys teuluoedd lle mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a/neu drais rhywiol.

Mae rhagor o wybodaeth am Orchmynion Trefniadau Plant a’r Llysoedd Teulu ar gael gan Rights of Women a Cafcass Cymru.

Arwyddion y gallai eich arddegwr fod mewn perthynas o gam-drin:

Gall perthnasoedd camdriniol fod yn anodd i’r person ifanc a’r rhiant eu mynegi. Mae pobl ifanc yn dysgu sut i ffurfio perthnasoedd o’r hyn maen nhw’n ei weld o’u cwmpas. Oherwydd hyn, mae’n bwysig addysgu pobl ifanc sut olwg sydd ar berthnasoedd iach a pherthnasoedd amhriodol, a sut i adnabod ymddygiad camdriniol.

Mae rhai arwyddion o berthnasoedd drwg yn cynnwys:

  • ynysu – ddim yn treulio amser gyda chi neu eu cylch arferol o ffrindiau bellach
  • bod yn fwy mewnblyg neu’n ddistawach nag arfer
  • ymateb yn ddig neu’n groendenau os oes rhywun yn gofyn sut mae pethau’n mynd
  • pryder yn ystod ‘amser di-ffôn’
  • newid personoliaeth sydyn heb esboniad, hwyliau cyfnewidiol ac ymddangos yn ansicr
  • gwneud esgusodion dros bartner
  • arwyddion o anafiadau corfforol
  • triwanta
  • dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol
  • hunan-anafu a meddyliau am hunanladdiad

Gall fod agweddau ac ymddygiadau i edrych amdanyn nhw mewn plant a phobl ifanc hefyd, er enghraifft:

  • credu bod ganddyn nhw’r hawl i reoli pobl eraill
  • credu ei bod yn iawn dangos gwrywdod drwy ymosodiad corfforol
  • mynnu agosatrwydd
  • credu y byddan nhw’n colli parch os ydyn nhw’n ofalgar a chefnogol i rieni/gofalwyr
  • credu nad yw dynion a menywod yn gyfartal

Beth gallwch chi ei wneud i helpu?

  • siarad gyda nhw am berthnasoedd iach e.e. beth ddylen nhw ei ddisgwyl
  • siarad gyda nhw’n gyffredinol – meithrin ymddiriedaeth a bod yn agored gydag arddegwyr
  • modelu perthnasoedd iach
  • cael cymorth arbenigol iddyn nhw, er enghraifft, gan y gwasanaethau cam-drin domestig lleol
  • eu cynghori nhw i ffonio ChildLine 0800 11 11
  • rhoi rhif Llinell Gymorth Byw Heb Ofn iddyn nhw 0808 80 10 800

Ffynhonnell: ‘Do you know if your teenager is in an abusive relationship?’

https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/506389/parents-leaflet__1_.pdf