Plant a phobl ifanc

 

Caiff diogelwch a lles emosiynol plant a phobl ifanc eu tanseilio’n ddifirol o ganlyniad i brofi, byw gyda neu weld cam-drin domestig.  Gall rhai plant gael eu cam-drin yn uniongyrchol yn gorfforol neu’n rhywiol gan y cyflawnwr. Gall pobl ifanc hefyd brofi neu gyflawni cam-drin yn eu perthnasoedd nhw eu hunain.

Adnoddau, hyfforddiant a Chyfres o Wasanaethau S.T.A.R

Yn Cymorth i Ferched Cymru rydym ni’n darparu amrywiaeth o adnoddau, hyfforddiant a chymorth i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cyfres o wasanaethau S.T.A.R (Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch) – cyfres o wasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal a rhaglenni grŵp ar gyfer pob oed hyd at 25 mlwydd oed.
  • Cyngor, gwybodaeth a chyfarwyddyd i alluogi gweithwyr proffesiynol
  • Hyfforddiant i ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Am fwy o wybodaeth, anfonwch neges atom os gwelwch yn dda gan ddefnddio’r ffurflen isod.