Ymgyrchu

Rydym ni’n ymgyrchu i wella arferion, polisi a gwasanaethau i oroeswyr yng Nghymru, yn y DU, yn Ewrop ac yn rhyngwladol.

Rydym ni’n codi llais am bethau sy’n bwysig i bobl sydd wedi profi cam-drin, ac i’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

Rydyn ni’n gwneud yn siŵr fod lleisiau a phrofiadau goroeswyr a gwasanaethau arbenigol yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud.

Mae angen eich cymorth arnom ni i’n helpu i ymgyrchu’n llwyddiannus i ddylanwadu newid. I gael rhagor o wybodaeth, neu gymryd rhan mewn ymgyrch benodol, ebostiwch  [email protected].