Telerau ac amodau

Cyflwyniad

Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol rhyngoch chi, Defnyddiwr y Wefan hon (gan gynnwys unrhyw is-barthau, oni bai eu bod wedi’u heithrio’n benodol gan eu telerau a’u hamodau eu hunain), a Cymorth i Ferched Cymru, perchennog a gweithredwr y Wefan hon. Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus os gwelwch yn dda, gan eu bod yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol. Bernir bod eich cytundeb i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn, a chael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn, yn digwydd ar eich defnydd cyntaf o’r Wefan. Os nad ydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn, dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r Wefan ar unwaith.

Yn y telerau ac amodau hyn, mae Defnyddiwr neu Defnyddwyr yn golygu unrhyw drydydd parti sy’n cyrchu’r Wefan ac nad yw naill ai (i) yn cael ei gyflogi gan Cymorth i Ferched Cymru ac yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd, neu (ii) wedi’i gymryd ymlaen fel ymgynghorydd neu fel arall yn darparu gwasanaethau i Cymorth i Ferched Cymru ac yn cyrchu’r Wefan mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau o’r fath.

Eiddo deallusol a defnydd derbyniol

Mae’r holl gynnwys a gynhwysir ar y Wefan yn eiddo i Cymorth i Ferched Cymru, ein cysylltiedigion neu drydydd partïon perthnasol eraill. Yn y telerau ac amodau hyn, mae Cynnwys yn golygu unrhyw destun, graffeg, delweddau, sain, fideo, meddalwedd, crynoadau data, cynllun tudalen, cod a meddalwedd isorweddol ac unrhyw fath arall o wybodaeth y gellir ei storio ar gyfrifiadur sy’n ymddangos ar y Wefan hon, neu sy’n ffurfio rhan o’r Wefan hon, gan gynnwys unrhyw gynnwys o’r fath a lanlwythir gan Ddefnyddwyr. Drwy barhau i ddefnyddio’r Wefan rydych yn cydnabod bod Cynnwys o’r fath wedi’i ddiogelu gan hawlfraint, nodau masnach, hawliau cronfa ddata a hawliau eiddo deallusol eraill. Ni ddylid dehongli unrhyw beth ar y safle hwn fel un sy’n rhoi, drwy oblygiad, estopel, neu fel arall, unrhyw ganiatâd neu hawl i ddefnyddio unrhyw nod masnach, logo neu nod gwasanaeth a arddangosir ar y safle heb ganiatâd ysgrifenedig y perchennog ymlaen llaw.

Gallwch, at eich defnydd personol anfasnachol eich hun yn unig, wneud y canlynol:

  1. adalw, arddangos a gweld y Cynnwys ar sgrin Cyfrifiadur
  2. gallwch argraffu neu lawrlwytho darnau i ddisg caled lleol
  3. gallwch gopïo’r cynnwys i drydydd partïon unigol at eu defnydd personol, ond dim ond os ydych yn cydnabod y wefan fel ffynhonnell y deunydd
  4. Fel arall, ni ddylech atgynhyrchu, addasu, copïo, dosbarthu neu ddefnyddio unrhyw Gynnwys at ddibenion masnachol heb ganiatâd ysgrifenedig Cymorth i Ferched Cymru.

Defnydd gwaharddedig

Ni chewch ddefnyddio’r Wefan at unrhyw un o’r dibenion canlynol:

  1. mewn unrhyw ffordd sy’n achosi, neu a allai achosi, difrod i’r Wefan neu sy’n ymyrryd â defnydd neu fwynhad unrhyw berson arall o’r Wefan;
  2. mewn unrhyw ffordd sy’n niweidiol, yn anghyfreithlon, yn anghyfreithiol, yn ddifrïol, yn aflonyddu, yn fygythiol neu sy’n annerbyniol fel arall neu sy’n torri unrhyw gyfraith, rheoliad, gorchymyn llywodraethol perthnasol;
  3. gwneud, trosglwyddo neu storio copïau electronig o Gynnwys a ddiogelir gan hawlfraint heb ganiatâd y perchennog.

Dolenni i wefannau eraill

Gall y Wefan hon gynnwys dolenni i safleoedd eraill. Oni nodir yn benodol, nid yw’r safleoedd hyn o dan reolaeth Cymorth i Ferched Cymru na’n cysylltiedigion.

Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys gwefannau o’r fath ac rydym yn ymwrthod ag atebolrwydd am unrhyw fath o golled neu ddifrod sy’n deillio o’r defnydd ohonynt.

Nid yw cynnwys dolen i safle arall ar y Wefan hon yn awgrymu unrhyw fath o gymeradwyaeth i’r safleoedd eu hunain na’r rheini sy’n eu rheoli.

Polisi Preifatrwydd

Mae’r defnydd o’r Wefan hefyd yn cael ei lywodraethu gan ein Polisi Preifatrwydd, sydd wedi’i ymgorffori yn y telerau a’r amodau hyn gan y cyfeiriad hwn. I weld ein Polisi Preifatrwydd, cliciwch ar y canlynol os gwelwch yn dda: http://www.welshwomensaid.org.uk/privacy

Argaeledd y Wefan ac ymwrthodiadau

Mae unrhyw gyfleusterau, offer, gwasanaethau neu wybodaeth y mae Cymorth i Ferched yn sicrhau eu bod ar gael drwy’r Wefan (y Gwasanaeth) yn cael eu darparu “fel y maent” ac ar sail “fel sydd ar gael”. Nid ydym yn gwarantu y bydd y gwasanaeth yn rhydd o wallau a/neu ddiffygion. I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn darparu unrhyw warantau (datganedig neu ymhlyg) o addasrwydd at ddiben penodol, cywirdeb gwybodaeth, cydnawsedd ac ansawdd boddhaol. Nid oes rheidrwydd ar Cymorth i Ferched Cymru i ddiweddaru gwybodaeth ar y Wefan.

Er bod Cymorth i Ferched Cymru yn defnyddio ymdrechion rhesymol i sicrhau bod y Wefan yn ddiogel ac yn rhydd rhag gwallau, firysau a maleiswedd arall, nid ydym yn rhoi unrhyw sicrwydd na gwarant yn hynny o beth ac mae pob Defnyddiwr yn derbyn cyfrifoldeb am eu diogelwch eu hunain, eu manylion personol a’u cyfrifiaduron.

Nid yw Cymorth i Ferched Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw amhariad neu ddiffyg argaeledd y Wefan.

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cadw’r hawl i newid, atal neu derfynu unrhyw ran o’r Wefan (neu’r holl Wefan) gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw gynhyrchion a/neu wasanaethau sydd ar gael. Bydd y telerau ac amodau hyn yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw fersiwn o’r Wefan sydd wedi’i haddasu oni nodir fel arall.

Cyfyngu ar atebolrwydd

Ni fydd unrhyw beth yn y telerau a’r amodau hyn: (a) yn cyfyngu neu’n eithrio ein hatebolrwydd ni neu eich atebolrwydd chi am farwolaeth neu anaf personol yn deillio o’n hesgeulustod ni neu o’ch esgeulustod chi, fel y bo’n gymwys; (b) yn cyfyngu neu’n eithrio ein hatebolrwydd ni neu eich atebolrwydd chi am dwyll neu gamliwio twyllodrus; neu (c) yn cyfyngu neu’n eithrio unrhyw un o’n rhwymedigaethau ni neu unrhyw un o’ch rhwymedigaethau chi mewn unrhyw ffordd na chaniateir o dan y gyfraith gymwys.

Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion sy’n deillio o ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Cymorth i Ferched Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw un o’r canlynol:

    1. Unrhyw golledion busnes, megis colli elw, incwm, refeniw, arbedion a ragwelir, busnes, contractau, ewyllys da neu gyfleoedd masnachol;
    2. colli neu lygru unrhyw ddata, cronfa ddata neu feddalwedd;
    3. unrhyw golled neu ddifrod arbennig, anuniongyrchol neu ganlyniadol.

Cyffredinol

Ni chewch drosglwyddo unrhyw un o’ch hawliau o dan y telerau a’r amodau hyn i unrhyw berson arall. Efallai y byddwn yn trosglwyddo ein hawliau o dan y telerau a’r amodau hyn pan gredwn yn rhesymol na fydd hyn yn effeithio ar eich hawliau.

Gall y telerau a’r amodau hyn gael eu hamrywio gennym o bryd i’w gilydd. Bydd telerau diwygiedig o’r fath yn gymwys i’r Wefan o’r dyddiad cyhoeddi. Dylai defnyddwyr wirio’r telerau a’r amodau yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r ferswin gyfredol ar y pryd.

Mae’r telerau a’r amodau hyn ynghyd â’r Polisi Preifatrwydd a’r Polisi Cwcis yn cynnwys y cytundeb llawn rhwng y partïon sy’n ymwneud â’i destun ac yn disodli’r holl drafodaethau, trefniadau neu gytundebau blaenorol a allai fod wedi digwydd mewn perthynas â’r telerau a’r amodau.

Ni fydd Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 yn gymwys i’r telerau ac amodau hyn ac ni fydd gan unrhyw drydydd parti unrhyw hawl i orfodi neu ddibynnu ar unrhyw ddarpariaeth yn y telerau ac amodau hyn.

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys yn canfod bod unrhyw ddarpariaeth (neu ran o unrhyw ddarpariaeth) yn y telerau a’r amodau hyn yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, ystyrir bod y ddarpariaeth honno, neu’r rhan-ddarpariaeth honno, i’r graddau sy’n ofynnol, yn cael ei dileu, ac ni effeithir ar ddilysrwydd na gorfodadwyedd darpariaethau eraill y telerau a’r amodau hyn.

Oni chytunir fel arall, ni ystyrir bod unrhyw oedi, gweithred neu anweithred gan barti wrth arfer unrhyw hawl neu rwymedi yn hepgoriad o hynny, neu unrhyw hawl neu rwymedi arall.

Caiff y telerau a’r amodau hyn eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr. Mae pob anghydfod sy’n codi o dan y telerau a’r amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth gyfyngol llysoedd Lloegr.

Manylion Cymorth i Ferched Cymru

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn gwmni cyfyngedig preifat sydd wedi’i ymgorffori yng Nghymru a Lloegr â’r rhif cofrestredig 7483469 a’r rhif elusen gofrestredig 1140962 a’i swyddfa gofrestredig yw Tŷ Pendragon, Caxton Place, Pentwyn, Caerdydd, CF23 8XE ac mae’n gweithredu’r Wefan www.welshwomensaid.org.uk.

Gallwch gysylltu â Cymorth i Ferched Cymru drwy ebost: [email protected]