Gwneud rhodd

 

Rydym ni’n dibynnu ar eich cefnogaeth chi i helpu miloedd o oroeswyr ar hyd a lled Cymru.

Gwnewch rodd ar-lein

Yma gallwch ddewis gwneud un rhodd neu rodd drwy ddebyd uniongyrchol rheolaidd i gefnogi ein gwaith hanfodol. Cofiwch glicio’r blwch Rhodd Cymorth os ydych chi’n talu trethi yn y DU os gwelwch yn dda. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os hoffech chi gadw mewn cysylltiad a chlywed mwy am ein gwaith.

Gallwch hefyd wneud rhodd…

Drwy’r post

Os yw’n well gennych chi anfon siec, taleb elusen neu archeb bost gwnewch nhw’n daladwy os gwelwch yn dda i ‘Cymorth i Ferched Cymru’ a’u hanfon, gyda’r ffurflen hon i:

Cymorth i Ferched Cymru,
Tŷ Pendragon,
Plas Caxton,
Pentwyn,
Caerdydd
CF23 8XE

Cofiwch wneud Rhodd Cymorth os ydych chi’n talu trethi yn y DU – bydd hyn yn caniatáu i ni hawlio 25c ychwanegol ym mhob punt yn ychwanegol at eich rhodd!

Drwy eich cyflogres

Ydych chi wedi meddwl am oi trwy’r gyflogres?  Mae’n ffordd hawdd, dreth-effeithiol o roi sy’n eich galluogi i wneud rhodd i elusen yn uniongyrchol o’ch cyflog cyn treth – gan gostio llai i chi roi mwy!

Bydd rhodd o £10 yn costio:

  • £8 yn unig i drethdalwr ar y gyfradd sylfaenol
  • £6 yn unig i drethdalwr ar y gyfradd uwch
  • £5 yn unig i drethdalwr ar y gyfradd uchaf

Beth allai fod yn well? Os hoffech roi drwy’r gyflogres, cwblhewch y ffurflen ar-lein yma.

Drwy siopa ar-lein

Ydych chi’n caru siopa ac yn awyddus i gefnogi Cymorth i Ferched Cymru? Dyma eich cyfle!

Ymunwch â Give as you Live, safle siopa ar-lein a dewiswch Cymorth i Ferched Cymru fel eich elusen. Bydd canran o bopeth y byddwch chi’n ei wario ar ddillad, teithio, cyfleusterau, neu unrhyw beth arall yn cael ei rhoi am ddim i Cymorth i Ferched Cymru! Ac fel bonws, byddwch chi hefyd yn derbyn cynigion gwych a thalebau yn syth i’ch blwch ebost.

 

Diolch am gefnogi Cymorth i Ferched Cymru