Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol rhyngoch chi, Defnyddiwr y Wefan hon a Cymorth i Ferched Cymru, perchennog a darparwr y Wefan hon.  Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cymryd preifatrwydd eich gwybodaeth o ddifrif. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’n defnydd o unrhyw Ddata, a’r holl Ddata, a gesglir gennym, neu a ddarperir gennych, mewn perthynas â’ch defnydd o’r Wefan.  Darllenwch y polisi preifatrwydd hwn yn ofalus os gwelwch yn dda.

Gweler gwaelod y dudalen am bolisïau preifatrwydd penodol os gwelwch yn dda.

Diffiniadau a dehongliad

Yn y polisi preifatrwydd hwn, defnyddir y diffiniadau canlynol:

Data

Gyda’i gilydd, yr holl wybodaeth a gyflwynwch i Cymorth i Ferched Cymru drwy’r Wefan. Mae’r diffiniad hwn yn ymgorffori, lle bo’n briodol, y diffiniadau a ddarperir yn Neddf Diogelu Data 1998.

Cwcis

Ffeil testun fach a osodir ar eich cyfrifiadur gan y Wefan hon pan fyddwch yn ymweld â rhannau penodol o’r Wefan a/neu pan fyddwch yn defnyddio rhai nodweddion o’r Wefan. Nodir manylion y cwcis a ddefnyddir gan y Wefan hon yn y cymal isod (Cwcis);

Cymorth i Ferched Cymru, neu ni

Cymorth i Ferched Cymru, cwmni cyfyngedig preifat a ymgorfforwyd yn Lloegr a Chymru gyda’r rhif cofrestredig 7483469, rhif elusen gofrestredig 1140962, a’i swyddfa gofrestredig yw: Tŷ Pendragon House, Caxton Place, Pentwyn, Caerdydd, CF23 8XE;

Cyfraith Cwcis y DU a’r UE

Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003 fel y’u diwygiwyd gan Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y CE) (Diwygio) 2011;

Defnyddiwr neu chi

Unrhyw drydydd parti sy’n cyrchu’r wefan ac nad yw naill ai (i) wedi’i gyflogi gan Cymorth i Ferched Cymru ac yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd neu (ii) wedi’i gymryd ymlaen fel ymgynghorydd neu fel arall yn darparu gwasanaethau i Cymorth i Ferched Cymru ac yn cyrchu’r Wefan mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau o’r fath; a

Gwefan

Y wefan yr ydych yn ei defnyddio ar hyn o bryd, https://welshwomensaid.org.uk, ac unrhyw is-barthau o’r wefan hon oni bai eu bod wedi’u heithrio’n benodol gan eu termau a’u hamodau eu hunain.

Yn y polisi preifatrwydd hwn, oni bai bod y cyd-destun yn gofyn am ddehongliad gwahanol:

  1. mae’r unigol yn cynnwys y lluosog ac i’r gwrthwyneb;
  2. mae cyfeiriadau at is-gymalau, cymalau, atodlenni neu atodiadau yn gyfeiriadau at is-gymalau, cymalau, atodlenni neu atodiadau i’r polisi preifatrwydd hwn;
  3. mae cyfeiriad at berson yn cynnwys cwmnïau (firms), cwmnïau (companies), endidau’r llywodraeth, ymddiriedolaethau a phartneriaethau;
  4. deellir bod “gan gynnwys” yn golygu “gan gynnwys heb gyfyngiad”;
  5. Mae cyfeiriad at unrhyw ddarpariaeth statudol yn cynnwys unrhyw addasiad neu ddiwygiad iddo;
  6. nid yw’r penawdau a’r is-benawdau yn rhan o’r polisi preifatrwydd hwn.

Cwmpas y polisi preifatrwydd hwn

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i weithredoedd Cymorth i Ferched Cymru a Defnyddwyr mewn perthynas â’r Wefan hon yn unig. Nid yw’n ymestyn i unrhyw wefannau y gellir eu cyrchu o’r Wefan hon gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw ddolenni y gallwn eu darparu i wefannau cyfryngau cymdeithasol.

Data a gesglir

Efallai y byddwn yn casglu’r Data canlynol, sy’n cynnwys Data personol, gennych:

  1. Enw
  2. Manylion cyswllt fel cyfeiriadau ebost a rhifau ffôn;
  3. Gwybodaeth ddemograffig fel cod post, dewisiadau a diddordebau;
  4. Math a ferswin porwr gwe (a gesglir yn awtomatig);
  5. System weithredu (a gesglir yn awtomatig);
  6. Ym mhob achos, yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Ein defnydd o Ddata

At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998, Cymorth i Ferched Cymru yw’r “rheolydd data”.

Byddwn yn cadw unrhyw Ddata a gyflwynwch am 12 mis.

Oni bai bod rhwymedigaeth arnom neu ganiatâd gennym gan y gyfraith, ac yn amodol ar unrhyw ddatgeliadau trydydd parti a nodir yn y polisi hwn, ni chaiff eich Data ei ddatgelu i drydydd partï Mae hyn yn cynnwys ein cysylltiedigion a /neu gwmnïau eraill o fewn ein grŵp.

Caiff yr holl Ddata personol ei storio’n ddiogel yn unol ag egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998. I gael rhagor o fanylion am ddiogelwch, gweler y cymal isod (Diogelwch).

O bryd i’w gilydd, efallai y bydd arnom angen unrhyw Ddata uchod, neu’r holl Ddata uchod, er mwyn darparu’r gwasanaeth a’r profiad gorau posibl i chi wrth ddefnyddio ein Gwefan. Yn benodol, gall Data gael ei ddefnddio gennym am y rhesymau canlynol:

    1. cadw cofnodion mewnol;
    2. gwella ein cynnyrch / gwasanaethau;
    3. trosglwyddo, drwy ebost, ddeunyddiau hyrwyddo a allai fod o ddiddordeb i chi;

ym mhob achos, yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Gwefannau a gwasanaethau trydydd parti

O bryd i’w gilydd, gall Cymorth i Ferched ddefnyddio gwasanaethau partïon eraill ar gyfer ymdrin â phrosesau penodol sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu’r Wefan. Mae gan ddarparwyr gwasanaethau o’r fath fynediad at Ddata personol penodol a ddarperir gan Ddefnyddwyr y Wefan hon.

Caiff unrhyw Ddata a ddefnyddir gan bartïon o’r fath ei ddefnyddio dim ond i’r graddau sy’n ofynnol ganddynt i gyflawni’r gwasanaethau y gofynnwn amdanynt. Caiff unrhyw ddefnydd at ddibenion eraill ei wahardd yn llym. At hynny, bydd unrhyw Ddata a brosesir gan drydydd partïon yn cael ei brosesu o fewn termau’r polisi preifatrwydd hwn ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Dolenni i wefannau eraill

O bryd i’w gilydd, gall y Wefan hon ddarparu dolenni i wefannau eraill. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros wefannau o’r fath ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn. Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn ymestyn i’ch defnydd o wefannau o’r fath. Rydym yn eich cynghori i ddarllen polisi neu ddatganiad preifatrwydd gwefannau eraill cyn eu defnyddio.

Newidiadau ym mherchnogaeth a rheolaeth busnes

O bryd i’w gilydd, mae Cymorth i Ferched Cymru yn ymestyn neu’n lleihau ein busnes a gall hyn gynnwys gwerthu a/neu drosglwyddo rheolaeth y cyfan neu ran o Cymorth i Ferched Cymru. Caiff Data a ddarperir gan Ddefnyddwyr, pan fo’n berthnasol i unrhyw ran o’n busnes a drosglwyddwyd, ei drosglwyddo ynghyd â’r rhan honno a bydd y perchennog newydd neu’r parti rheoli newydd, o dan delerau’r polisi preifatrwydd hwn, yn cael defnyddio’r Data at y dibenion y cafodd ei ddarparu i ni yn wreiddiol.

Efallai y byddwn hefyd yn datgelu Data i ddarpar brynwr ein busnes neu unrhyw ran o’n busnes.

Yn yr achosion uchod, byddwn yn cymryd camau gyda’r nod o sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu.

Rheoli’r defnydd o’ch Data

Lle bynnag y bo’n ofynnol i chi gyflwyno Data, byddwch yn cael opsiynau i gyfyngu ar ein defnydd o’r Data hwnnw. Gall hyn gynnwys y canlynol:

  1. defnyddio Data at ddibenion marchnata uniongyrchol; a
  2. rhannu Data gyda thrydydd partï

Swyddogaethau’r Wefan

Er mwyn defnyddio’r holl nodweddion a swyddogaethau sydd ar gael ar y Wefan, efallai y bydd angen i chi gyflwyno Data penodol.

Gallwch gyfyngu ar ddefnydd eich porwr o Cwcis. I gael rhagor o wybodaeth gweler y cymal isod (Cwcis).

Cyrchu eich Data eich hun

Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o unrhyw Ddata personol a gedwir gan Cymorth i Ferched Cymru (pan fo Data o’r fath yn cael ei gadw) am ffi fach na fydd yn fwy na £10.

Diogelwch

Mae diogelu Data yn bwysig iawn i Cymorth i Ferched Cymru ac er mwyn diogelu eich Data rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli priodol ar waith i ddiogelu Data a gesglir drwy’r Wefan hon.

Os oes angen mynediad â chyfrinair ar gyfer rhannau penodol o’r Wefan, chi sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol.

Rydym yn ymdrechu i wneud ein gorau i ddiogelu eich Data personol. Fodd bynnag, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel ac fe’i gwneir ar eich menter eich hun. Ni allwn sicrhau diogelwch eich Data a drosglwyddir i’r Wefan.

Cwcis

Gall y Wefan hon osod a chael mynediad at rai Cwcis ar eich cyfrifiadur. Mae Cymorth i Ferched Cymru yn defnyddio Cwcis i wella eich profiad o ddefnyddio’r Wefan. Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi dewis y Cwcis hyn yn ofalus ac wedi cymryd camau i sicrhau bod eich preifatrwydd wedi’i ddiogelu a’i barchu bob amser.

Caiff yr holl Cwcis a ddefnyddir gan y wefan hon eu defnyddio yn unol â Chyfraith Cwcis gyfredol y DU a’r UE.

Cyn i’r Wefan osod Cwcis ar eich cyfrifiadur, byddwch yn derbyn bar negeseuon yn gofyn am eich caniatâd i osod y Cwcis hynny. Drwy gytuno i osod Cwcis, byddwch yn galluogi Cymorth i Ferched Cymru i ddarparu gwell profiad a gwasanaeth ar eich cyfer. Gallwch, os dymuwch, wrthod caniatâd i osod y Cwcis; fodd bynnag, efallai na fydd rhai o nodweddion y Wefan yn gweithredu’n llawn nac yn ôl y bwriad.

Gall y Wefan hon osod y Cwcis canlynol: Cwcis cwbl angenrheidiol – Cwcis yw’r rhain sy’n ofynnol ar gyfer gweithredu’n gwefan. Maent yn cynnwys, er enghraifft, Cwcis sy’n eich galluogi i fewngofodi i rannau diogel o’n gwefan, defnyddio cart siopa neu ddefnyddio gwasanaethau e-filio. Cwcis dadanosoddi/perfformiad – Maent yn caniatáu i ni adnabod a chyfri’r nifer o ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch ein gwefan wrth ei defnyddio. Mae hyn o gymorth i ni wella’r ffordd y mae ein gwefan yn gweithio, er enghraifft, drwy sicrhau bod defnyddwyr yn ei chael hi’n hawdd dod o hyd i’r hyn y maent yn chwilio amdano.

Gallwch ddewis galluogi neu analluogi Cwcis yn eich porwr. Mae’r mwyafrif o borwyr rhyngrwyd yn derbyn Cwcis yn ddiofyn ond gellir newid hyn. I gael rhagor o fanylion pellach, ewch os gwelwch yn dda at y ddewislen cymorth yn eich porwr.

Gallwch ddewis dileu Cwcis ar unrhyw adeg; fodd bynnag, gallech golli unrhyw wybodaeth sy’n eich galluogi i gyrchu’r Wefan yn gynt ac yn fwy effeithlon gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, osodiadau personol.

Argymhellir eich bod yn sicrhau bod eich porwr yn gyfredol a’ch bod yn ymgynghori â’r cymorth a’r arweiniad a ddarperir gan ddatblygwr eich porwr os ydych yn ansicr ynghylch addasu eich gosodiadau preifatrwydd.

Cyffredinol

Ni chewch drosglwyddo unrhyw un o’ch hawliau o dan y polisi preifatrwydd hwn i unrhyw berson arall. Efallai y byddwn yn trosglwyddo ein hawliau o dan y polisi preifatrwydd hwn pan gredwn yn rhesymol na fydd hyn yn effeithio ar eich hawliau.

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys yn canfod bod unrhyw ddarpariaeth (neu ran o unrhyw ddarpariaeth) yn y polisi preifatrwydd hwn yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, ystyrir bod y ddarpariaeth honno, neu’r rhan-ddarpariaeth honno, i’r graddau sy’n ofynnol, yn cael ei dileu, ac ni effeithir ar ddilysrwydd na gorfodadwyedd darpariaethau eraill y polisi hwn.

Oni chytunir fel arall, ni ystyrir bod unrhyw oedi, gweithred neu anweithred gan barti wrth arfer unrhyw hawl neu rwymedi yn hepgoriad o hynny, neu unrhyw hawl neu rwymedi arall.

Caiff y polisi preifatrwydd hwn ei lywodraethu a’i ddehongli yn unol â chyfraith Lloegr. Mae pob anghydfod sy’n codi o dan y polisi preifatrwydd hwn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth gyfyngol llysoedd Lloegr.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cadw’r hawl i newid y polisi preifatrwydd hwn fel y tybiwn sy’n angenrheidiol o bryd i’w gilydd neu fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.  Caiff unrhyw newidiadau eu postio ar unwaith ar y Wefan a bernir eich bod wedi derbyn termau’r polisi preifatrwydd ar eich defnydd cyntaf o’r Wefan yn dilyn y newidiadau. Gallwch gysylltu â Cymorth i Ferched Cymru drwy ebost: [email protected]

Fel rheol bydd Cwcis yn gwella eich profiad pori. Fodd bynnag, efallai y byddai’n well gennych analluogi Cwcis ar y wefan hon ac ar eraill. Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn yw analluogi Cwcis yn eich porwr.  Rydym am awgrymu ymgynghori ag adran Help eich porwr neu edrych ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ICO website, sy’n cynnig canllawiau ar gyfer defnyddio pob porwr modern.

I optio allan o gael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.