Beth yw trais rhywiol?

Beth yw trais rhywiol?

Mae trais rhywiol yn cynnwys unrhyw weithred neu weithgaredd rhywiol digroeso, a all fod yn gorfforol neu beidio, sy’n digwydd heb gydsyniad llawn a gwybodus rhywun.

Mathau o drais rhywiol

Mae llawer o wahanol fathau o drais rhywiol.  Gall y rhain gynnwys, ymhlith pethau eraill:

(Clicwich y penawdau isod os gwelwch yn dda i gael rhagor wybodaeth. Nodwch fod y rhain yn cynnwys disgrifiadau o gam-drin a all beri gofid.)

 

Er ein bod yn siarad am drais “rhywiol”, mae’n bwysig cofio bod rhyw ond yn digwydd pan fydd pob person yn y gweithgaredd yn cydsynio’n rhydd ac yn llawn.

 

Pŵer a rheolaeth

Caiff trais rhywiol ei ddefnyddio gan gyflawnwyr i ennill pŵer a rheolaeth, gan ganiatáu iddynt drin goroeswyr heb unrhyw ystyriaeth na pharch.

Mae llawer o fythau di-fudd ynghylch trais a cham-drin rhywiol, ac mae’n bwysig i ni herio’r rhain pan fyddant yn cael eu hailadrodd. Diwedd y gân yw hyn: bai’r cyflawnwr yw pob math o drais rhywiol, beth bynnag yw’r sefyllfa.

 

 

Cydsynio

Mae cydsynio yn digwydd pan fydd pob person sy’n rhan o unrhyw fath o weithgaredd rhywiol yn dewis cymryd rhan o’u gwirfodd.

Gall cydsynio ymddangos a theimlo’n wahanol i bob person. Gall gynnwys ddweud ‘ie’ yn frwdfrydig, cyfnewid cyfatebol o’r hyn y mae pob parti am ei wneud ac am beidio â’i wneud a gwirio gyda’r person arall. Cofiwch fod modd tynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg ac nad yw’n gymwys yn gyffredinol: nid yw’r ffaith bod rhywun wedi cydsynio i un gweithgaredd rhywiol yn golygu bod y person hwnnw wedi cydsynio’n awtomatig i un arall.

Nid oes angen i rywun ddweud ‘na’ yn benodol i ddangos nad yw am gydsynio. Os bydd rhywun yn ymddangos yn ansicr neu’n dawel, neu’n dangos diffyg ymateb, nid yw’n cytuno i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.

Trwy ddiffiniad, mae’n rhaid i bobl gael y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw er mwyn cydsynio. Nid oes gan bobl y gallu i wneud hyn os ydynt, er enghraifft:

  • Yn rhy ifanc
  • Yn cysgu neu’n anymwybodol
  • Wedi cymryd alcohol neu gyffuriau
  • Wedi cael eu ‘sbeicio’
  • O dan bwysau, yn cael eu manipiwleiddio, eu bygwth neu eu twyllo
  • Yn cael eu gorfodi drwy rym
  • Yn methu â gwneud y dewis am unrhyw reswm arall

Oed cydsynio i bawb yng Nghymru yw 16, beth bynnag fo’u rhywedd, rhyw, neu’u cyfeiriadedd rhywiol.

 

I gael cymorth

Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.